ÃÛÑ¿´«Ã½

Pwy a be

Lewis Edwards ar glawr llyfr Densil Morgan

gan Elfyn Pritchard
Bore Mercher Gorffennaf 21 2010

Be sy'n gyffredin i gystadleuaeth golff yn yr Alban, y sioe yn Llanelwedd a chofgolofn o flaen Coleg y Bala?

Mi dreuliais i ddeuddydd yng nghystadleuaeth golff yr Open gynhaliwyd eleni yn St Andrews ond peidiwch â gofyn imi pwy enillodd, alla i ddim ynganu ei enw a doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd o.

Ond mi wn un peth amdano. Mi wn i be ydi o. Golffiwr o fri, un sy'n gallu taro'r bêl yn syth ac ymhell, ac anelu'n gywir bron bob tro.

Ia, be ydi o, nid pwy ydi o sy'n bwysig yng nghystadleuaeth yr Open.

Yn y sioe

Mae hi'n wythnos y sioe fawr a chystadlu brwd yn mynd ymlaen yn yr holl adrannau.

Dwi ddim yn gwybod pwy ydi'r rhan fwya o'r enillwyr, peidiwch gofyn i mi eu henwi hyd yn oed ond mi wn i be ydyn nhw; rhai efo llygaid am anifail, rhai sy'n nabod safon, yn nabod pedigrî, yn gwybod sut i fagu a datblygu anifail.

Be ydi o nid pwy ydi o sy'n bwysig i gystadleuydd yn y sioe.

Lewis Edwards

O flaen Coleg y Bala mae na gofgolofn i Lewis Edwards yr un sefydlodd y coleg.

Mi wyddwn i pwy oedd o ac roedd gen i ragfarn yn ei erbyn.

Snob, er ei fod o deulu cyffredin, Saisgarwr a sefydlodd y capeli Saesneg ymhlith y Methodistiaid, 'Yr English Cause' fel maen nhw'n cael eu galw.

Oeddwn, roeddwn i'n meddwl mod i'n gwybd tipyn amdano fo a doeddwn i ddim yn hoffi'r hyn wyddwn i.

Ond mi ddarllenais lyfr ardderchog Densil Morgan amdano fo a mi dwi wedi newid fy meddwl am mod i'n gwybod bellach nid pwy oedd o ond be oedd o.

Wyddoch chi mai fo oedd un o feirniaid amlycaf adroddiad Brad y Llyfrau Gleision ac fe ymosododd yn hallt ar rai o'i gyd Gymry oedd yn barod i gowtowio i'r Saeson rhagfarnllyd luniodd yr adroddiad.

Sefyll yn gadarn

Safodd yn gadarn dros addysg yn ei hystyr lawnaf a thros ddatblygiad llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg.

Ac wrth feirniadu snobyddiaeth yr adroddiad dyma ddwedodd o:

"Hir y parhao y Cymry i barchu pob un yn ôl ei deilyngdod gwirioneddol ac nid yn ôl ei fawredd amgylchiadol."

A dyna neges Lewis Edwards i bob un ohonom ni.

Mewn bywyd, boed hwnnw yn gêm yn sioe neu'n goleg neu'n gymysgedd o'r tri, be ydym ni, nid pwy ydym ni sy'n bwysig.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.