Trosedd a chosb
Prynhawn Sul cefais gyfle i weld Mair Tomos Ifans yn cyflwyno monolog gan Angharad Tomos, Dan Glo.
Monolog ydyw o brofiad dynes o Sir Fôn a dreuliodd ddeunaw mis yng Ngharchar Stile ger Manceinion.
Does dim llawer o bynciau mor effeithiol â throsedd a chosb - a sut i ymwneud â chyn-droseddwyr - i gynnau emosiynau pobl.
Ac mae hynny'n naturiol gan fod trosedd yn creu poen ac yn dinistrio bywydau dioddefwyr.
Mae'r dioddefwr yn y canol bob tro ond o gamu'n ôl mae nifer o ffactorau eraill yn dod i'r darlun. Effeithir ar deuluoedd troseddwr ac mae cymdeithas hefyd yn cael ei herio yn y ffordd mae cymunedau yn ymateb i'r sefyllfa
Dod yn ôl
A sut lefydd ydy'n cymunedau ni i ddod yn ôl iddyn nhw? I'r ferch o Sir Fôn, troi pen a chroesi'r stryd i'w hosgoi oedd rhai tra bo gwên neu nod gan eraill yn golygu cymaint.
Caf hi'n anodd pan drafodir cyn droseddwyr yn y fath fodd eu bod yn parhau i gael eu cosbi.
Beth ddigwyddodd i dderbyn cosb, ei chyflawni a symud ymlaen?
Ac os na chaiff person gyfle i symud ymlaen yna mae camu'n ôl i'r hen ffordd yn gallu bod yn rhy rhwydd.
Doedd y ferch yn y fonolog ddim yn gwadu mai ei bai hi oedd ei throsedd ac roedd yn cydnabod ei chamgymeriad a dwi'n sicr nad oes yr un gwrandäwr sydd heb wneud camgymeriad - rhyw greaduriaid felly yda ni yn gwneud rhywbeth o'i le, methu, ac yn aml yn gwneud hynny dro ar ôl tro.
Pawb yn methu
Dwi'n sicr nad oes yna unrhyw un yn gwrando chwaith sydd heb ofyn am faddeuant am ryw gam neu'i gilydd. Mae'n naturiol - pobl yda ni ac mae pobl yn gwneud camgymeriadau.
Os gallwn ni ddeall hynny pam fod cyn droseddwyr yn gallu ein troi ni i fod yn bobl hunangyfiawn ar y naw?
Fel Cristion, mae maddeuant yn rhan hanfodol o'm ffydd - er na allwn ni ddeall maddeuant o ddifri nes bod mewn sefyllfa i dderbyn neu i roi maddeuant.
I mi, ffydd yr ail gyfle ydy Cristnogaeth a dwi'n credu y byddai'n cymunedau yn llawer gwell o fod yn gymunedau yr ail gyfle hefyd.