ÃÛÑ¿´«Ã½

Chwyn

gan Beti Wyn James
Bore Mercher Tachwedd 17 2010

Rhwng dau gae

Wrth fodio drwy dudalennau'r Western Mail ddoe dyma ddod ar draws dau lun o ddau stadiwm neu faes chwaraeon.

Y naill yng Nghaerdydd a'r llall yn Abertawe. Y naill oedd Stadiwm y Mileniwm, sef cartref tîm rygbi Cymru a'r llall oedd Cae'r Vetch, hen gartref tîm pêl-droed Dinas Abertawe.

Yn y naill lun, goleuwyd Stadiwm y Mileniwm â goleuadau glas llachar er mwyn tynnu sylw at ddiwrnod byd-eang Clefyd y Siwgr - un ymhlith nifer o adeiladau enwog ledled y byd a oleuwyd yn las ar Dachwedd 14 gan gynnwys y Tŷ Opera yn Sydney, Awstralia.

Popeth ond goleuni

Ond nid goleuadau lliwgar yn taflu delweddau llachar oedd yn nodweddi'r ail lun. Yn wir, roedd y llun o Gae'r Vetch yn bopeth ond goleuni a bywyd.

Gyda'r pyst gôl yn dechrau rhydu, yr eisteddleoedd yn ddi-raen, yr hen 'north bank' yn ddim byd ond cysgod o'r hyn a fu, a'r cae wedi tyfu'n wyllt o chwyn - mae'n anodd credu mai hwn, ar un adeg, oedd cae breuddwydion miloedd ar filoedd o gefnogwyr y Swans.

Yma bu'r brodyr Ivor a Len Allchurch a Cliff Jones yn chwarae, heb sôn am John Toshack yn arwain ei dîm i'r adran gyntaf!

Ond erbyn heddi, a Chyngor Tref Abertawre'n methu'n deg a dod o hyd i brynwr I'r safle, does yno ddim byd ond rhŵd yn bwyta'r haearn, a chwyn yn tagu'r ddaear.

Ni welir fyth eto Gae'r Vetch yn cael ei adfer i'w bwrpas gwreiddiol oherwydd bod tîm Abertawe wedi symud ymlaen i dir gwell Stadiwm y Liberty.

Ie, fe fydd y rhwd yn dal i ddangos ei ddannedd a'r chwyn yn dal i dyfu ar y Vetch.

Tagu bywyd

Mae 'na chwyn o fath arall i'w cael heddi sy'n tagu llawer mwy na hen gae pêl-droed. Chwyn sy'n tagu bywyd.

Chwyn ein heiddigeddau ni, a'n casinebau ni. Chwyn ein trachwant a'n hunanoldeb.

Onid yw hi'n bryd inni fynd ati i glirio'r chwyn sy'n tagu bywyd heddiw er mwyn gweld y byd hwn yn cael ei adfer i'r hyn y bwriadwyd iddo fod - byd lle mae tegwch a chyfiawnder, heddwch a maddeuant yn teyrnasu.

Fel y gwelwn ym mhob llun, ledled byd, oleuni a fydd yn adlewyrchu bywyd llon a llawen.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.