ÃÛÑ¿´«Ã½

Gwers Mourinho

gan Lona Roberts
Bore Mawrth, Rhagfyr 7 2010

Glywaist ti bo nhw wedi colli o bum gôl i ddim? Yn erbyn Barca!

Camp Y Cyfieithydd

Real Madrid? Ie, 'na fe.

Beth 'wedodd e wedyn, te?

Dweud y galle fe arwain Real i'r bencampwriaeth hyd yn oed ar ôl y fath grasfa - ei fod e wedi gwneud hynny gyda Inter Milan.

Da ti, Mourinho, dwed ti wrthyn nhw. Mae'r boi 'na'n arbennig.

Lico'i olwg e wyt ti.

Dangos ti fenyw i fi sy ddim. José Mourinho. Mae'r enw ei hunan yn hala'ch ymysgaroedd chi i grynu, heb sôn am ddim byd arall.

"Y Cyfieithydd" ma'r dorf ar derasau'r Cyfandir yn ei alw fe, am mai dyna oedd e yn ifanc - cyfieithydd Bobbie Robson yn Barca.

Wel ma hwnna'n enw dof o'i gymharu â phethe wy wedi'u clywed e'n cael ei alw. Ar ôl y golled fawr 'na yn erbyn Barca o bawb, mentrodd un gohebydd ofyn iddo fe os oedd un tamaid o wyleidd-dra yn perthyn iddo fe.

O, dere nawr, 'na gwestiwn dwl. Dydy nhw ddim yn talu Mourinho i fod yn ddiymhongar, na neb arall yn ei safle fe yn y byd pêl-droed o ran hynny. Cael eu talu maen nhw i fod yn llawn hyder. Glywais i ddim un cefnogwr go iawn na ddywedodd ar ôl colled fawr, " Y gêm nesa sy'n cyfri".

Pwy yn y byd sy mo'yn arwr sydd ddim yn dal ei dir? Mae arwr rhywun yn ddewr a phendant, yn eofn a heriol, yn ysbrydoli ei dîm i ennill, hyd yn oed ar ôl crasfa. Gallwch chi ddim bod yn gefnogwr go iawn a chithau wedi colli'ch hyder.

Dyw cefnogwyr sy'n pwdu werth dim. Cynrychioli gobaith gwirioneddol a hyder yn ei ddawn ac yn ei dîm y mae Mourinho, a galw ar y cefnogwyr i sicrhau buddugoliaeth.

Rhinweddau lawer

Ond mae'r wasg yn ei gasáu e.

Odi a chasáu sawl un arall hefyd. Ond dyna ni. Mae gydag e rinweddau lawer sy'n ddeniadol ac i'w hargymell i sawl plaid wleidyddol a'u cefnogwyr, heb sôn am Eglwys Iesu Grist yn ein plith ni.

Wrth i ni baratoi i ddathlu geni Iesu, gwae ni anghofio mai hwn yw'r Iesu buddugol, orchfygodd gynllwynion y tywyllwch, yr un ddywedodd wedi gwarth y groes: "Codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd."


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.