Dwy gofgolofn
Dwi'n edmygu pobl sydd yn cadw ffydd trwy brofiadau heriol.
Ychydig o wrthwynebiad sydd ei angen ar rai a bydd tywel ffydd wedi ei daflu mewn i'r sgwâr i gyhoeddi bod yr ornest ar ben.
Ond mae eraill, yn dal ati, yn cadw i fynd, yn dal i frwydro ac yn dal i gredu a hynny yn wyneb pob caledwch.
Un o'r bobl bositif yma yw Cristion o'r enw Yi sydd yn weinidog ar eglwys fechan yn Phnom Pehn, prifddinas Cambodia.
Cwrddais i â Yi rai wythnosau nôl wrth ymweld â'r wlad ac aeth â ni i gyrion y ddinas i weld y gofgolofn fwyaf arswydus a brawychus a welais i erioed.
Dim byd tebyg
Mae'n amheus gennyf a oes 'na gofgolofn debyg iddi yn unman arall yn y byd. Ffurfiwyd y gofgolofn uchel hon allan o haearn a gwydr ac mae wedi ei llenwi â phenglogau.
Codwyd y gofgolofn i goffau'r miliynau a lofruddiwyd yng Nghambodia yn ystod cyfnod y Khmer Rouge o 1975 i 1979 dan arweinyddiaeth Pol Pot.
Ceisiodd yr unben creulon hwn orfodi rhyw fath o gomiwnyddiaeth. Creu unedau amaethyddol trwy'r wlad a dileu'r farchnad rydd.
Er i'r bobl dyfu reis, gwerthwyd hwn i wledydd tramor am arfau i sicrhau bod y Khmer Rouge yn aros mewn grym.
Daeth dagrau i lygaid Yi wrth inni gerdded o gwmpas y gofgolofn ac yntau'n sôn am y profiad o golli ei dad a'i frawd yn y cyfnod hwn a'r effaith ddinistriol a gafodd hyn ar ei fam a'i chwaer.
Ymweld ag ysgolion
Yna fe aeth a ni i'w gartref, i gwrdd â'i wraig a'i blant. Roedd Yi wedi dechrau ysgol yn ei gartref i rai o blant y stryd, ysgol seml, yn brin o adnoddau ond yn llawn o frwdfrydedd.
Aeth Yi â ni i ysgol arall hefyd, taith dwy awr i ffwrdd, lle'r oedd tua 200 o blant mewn ysgol roedd e wedi ei sefydlu gyda chymorth Jeanne, un o'n ffrindiau ni sy'n gweithio yn y wlad ond yn dod yn wreiddiol o Gaerfyrddin.
Anghofiai byth weld wynebau'r plant yn y gwersi a sêl yr athrawon yn eu dysgu mewn sefyllfa dlawd ac anghenus.
Ein braint oedd rhannu yn y gwersi, sôn am Gymru, sôn am Iesu Grist a sôn am gariad Duw.
Llawn o gariad
Gadawsom y Ddraig Goch ar ôl yn hedfan uwchben yr ysgol fel arwydd o'n cyfeillgarwch ni â'r wlad.
Mewn gwirionedd, gwelais ddwy gofgolofn, un o wydr yn llawn o benglogau yn coffau trais a chreulondeb, un arall o gig a gwaed yn llawn o gariad, daioni a ffydd, yn hyrwyddo bywyd.