
24 Hydref 2011
John Roberts yn holi tri ar 'Bwrw Golwg', ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru, beth fyddai'n gwella'r byd.
Ar gychwyn Wythnos Un Byd 2011 bu Bwrw Golwg Hydref 23 yn holi tri o bobl beth fyddai'r un peth a fyddai'n mynd a ni yn agosach at y ddelfryd o gyd-ddealltwriaeth a chytgord rhyngwladol.
Dyma oedd gan Rhodri Darcy, Ffred Ffransis ac Aneurin Owen i'w ddweud:
- Rhodri Darcy: Cael gwared â thlodi byd-eang sydd wrth wraidd yr holl annhegwch ac anghyfiawnder yn y byd.
- Ffred Ffransis: Dileu y system fancio byd-eang bresennol a dychwelyd at system a fyddai'n gwasanaethu pobl a'u cymunedau.
- Aneuirin Owen: Creu peiriant y byddai pobl yn mynd i mewn un pen ac yn dod allan yn wahanol ac yn well y pen arall. Dywedodd y byddai'n rhoi bancwyr a gwleidyddion yn y peiriant hwn i ddod allan yn ffermwyr. Ychwanegodd y byddai'r peiriant hefyd yn rhoi "hedyn gair Duw" yng nghalonnau pobl.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Clicio ar y darn llwyd i wrando ar y tri: