Ganwyd Ryan Davies yng Nglanaman Sir Gaerfyrddin ar Ionawr 22, 1937.
Fe ddechreuodd yr actor, y canwr a'r ysgrifennwr Ryan Davies ei yrfa fel athro. Fe ddilynodd gwrs dysgu yng Ngholeg Normal Bangor yn 1957 cyn dilyn blwyddyn o gwrs yn Central School of Speech and Drama yn Llundain.
Yn ystod y 1960au fe ddysgodd am chwe mlynedd mewn ysgol uwchradd yn Croydon ond yn perfformio ar yr un pryd yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ymddangos yn aml mewn nifer o raglenni teledu ar gyfer y ÃÛÑ¿´«Ã½ a'r TWW. Fe briododd Irene Williams yn 1961 gan adael y proffesiwn dysgu yn 1966.
Fe ymddangosodd fel actor proffesiynol am y tro cyntaf ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn y ddrama Pros Kairon. Yn 1968, gafodd y brif ran yn Y Drwmwr y ddrama deledu gyntaf yn y Gymraeg i gael ei darlledu gydag is-deitlau.
Gofynnwyd iddo wneud y rhaglen deledu Gymraeg - Ryan a Ronnie a bu'r rhaglen yn llwyddiant ysgubol a gofynnwyd i'r ddau wneud cyfres fer o'r enw The Good Old Days yn Blackpool. Ryan a Ronnie oedd un o'r deuawdau mwya' talentog yng Nghymru - ac roedd y berthynas hon rhwng y ddau yn cael ei hymdebygu i Morecambe and Wise yn y Saesneg.
Yn y cyfamser, fe gyhoeddwyd mai ef a fyddai'n chwarae ail-lais i Richard Burton yn y ffilm, Under Milk Wood .
Cafodd Ryan a Ronnie beth llwyddiant yn gwneud pantomeimiau - Cinderella a Dick Whittington , ond fe benderfynasant wahanu. Yn dilyn y gwahanu, yn 1975 ymddangosodd Ryan mewn sioe bantomeim Mother Goose ar ei ben ei hun.
Rhwng 1970 a 1977 cymerodd ran yn un o gyfresi teledu Cymraeg mwyaf poblogaidd ei ddydd, Fo a Fe, gan a Rhydderch Jones.
Deilliai comedi'r gyfres o'r gwrthdaro rhwng y gogledd a'r de yng nghymeriadau Ryan (Twm Twm, yr 'hwntw') a Guto Roberts (Ephraim, y 'gog').
Fe gafodd flwyddyn brysur iawn yn 1976 pan ymddangosodd yng nghomedi The Sunshine Boys yng Nghaerdydd a dwy ddrama Gymraeg, Welsh Not a Merthyr Riots . Y flwyddyn ganlynol fe actiodd yn Jack and the Beanstalk ac wedyn yn Babes in the Wood.
Ymddangosodd wedyn yn y rhaglen deledu Ryan, a alluogodd iddo ddangos ei dalentau amrywiol, yn ogystal â rhaglen deyrnged i Saunders Lewis ar HTV, sef A Necessary Figure . Roedd yn bosibl ei glywed hefyd ar y radio yn The Breakers. Fe chwaraeodd nifer o gymeriadau yn cynnwys twrist Americanaidd yn rhaglen deledu ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru, How Green Was My Father ac ymddangosodd yn Poems and Pints ar ÃÛÑ¿´«Ã½2.
Bu farw pan oedd ond yn 40 oed yn Buffalo, Yr Amerig ar Ebrill 22, 1977 wedi cael pwl mawr o asthma.
Mae ei fab, Arwyn Davies, yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yn chwarae rhan Mark Jones yn yr opera sebon Pobol y Cwm ar S4C. Mae hefyd yn gerddor a chanwr dawnus, yn dilyn ôl troed ei dad.
Mwy
Cysylltiadau'r ÃÛÑ¿´«Ã½
Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn