Ganwyd Thomas John Woodward ar 7fed o Fehefin 1940 ac fe'i magwyd yn Nhrefforest.
Dal yn frenin y symudwyr, fe ddechreuodd Tom Jones fel prif ganwr Tommy Scott and the Senators.
Cân am Gymru?
Nid yw un o ganeuon enwocaf Tom Jones 'The Green Green Grass of ÃÛÑ¿´«Ã½' yn sôn am Gymru ond yn hytrach am yr Unol Daleithiau ac fe'i recordiwyd gyntaf gan Jerry Lee Lewis.
Yn ifanc iawn, roedd llais Tom Jones yn denu sylw. Erbyn y 1950au roc a rôl oedd cariad Tom ac roedd o'n byw bywyd digon tebyg yn colli ysgol, yn yfed a chwilio am ferched. Ond daeth tro ar fyd pan orfu iddo aros yn ei wely am flwyddyn gan TB ac fe sianelodd ei holl ynni i gerddoriaeth a chelf.
Yn 16 oed gadwodd yr ysgol a mynd i weithio'n y nos mewn melin bapur gan briodi Linda yn 17 cyn genedigaeth ei fab Mark. Ond roedd canu'n denu Tom o'r felin a daeth yn brif ganwr y grŵp Tommy Scott and the Senators.
Roedd y band yn llwyddiant mawr ond methiant fu eu hymgais i sicrhau llwyddiant ar draws Prydain gan na ryddhawyd eu demo i'r cwmnïau recordiau mawr.
Ond roedd Gordon Mills, y rheolwr o Lundain, wedi gweld Tom ac wedi gweld talent ynddo hefyd. Meddai Mills yn ddiweddarach - "Roedd yna lais yma y gallai ei wneud y canwr mwyaf yn y byd".
Fe dwtiodd yr hogyn ifanc, rhoi enw arall iddo sef Tom Jones ac roedd ei ail sengl 'It's Not Unusual' yn llwyddiant ysgubol ar draws y byd.
Mae Tom dal i recordio caneuon a pherfformio. Ei albwm ddiweddaraf yw Praise & Blame.
Syr Tom Jones yw un o'r beirniaid ar raglen dalent newydd nos Sadwrn ÃÛÑ¿´«Ã½ One The Voice yn ystod gwanwyn 2012. Cystadleuaeth yn chwilio am dalent canu ydy'r rhaglen, a'r beirniaid eraill ydy Jessie J, Will.i.am o'r Black Eyed Peas a Danny O'Donoghue o The Script. Fe fydd y beirniaid yn eistedd gyda'u cefnau tuag at yr unigolion sy'n canu, fel eu bod yn cael eu beirniadu ar eu llais ac nid ar eu delwedd.
Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn