ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dan y Cownter 2 Adolygiad CD Dan y Cownter 2
Adolygiad o CD dan y Cownter 2 gan Sirion Teifi o Lanfihangel-ar-Arth ger Pencader.
Lansiwyd y CD aml-gyfrannog Dan y Cownter yn steddfod yr Urdd llynedd, roedd o mor boblogaidd - penderfynwyd lansio Dan y Cownter 2.

Huw Stephens, cyflwynydd C2 ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru ac ar Radio 1 sydd eto wedi dewis 10 o ganeuon sy'n dangos cymaint o amrywiaeth sydd o fewn y sîn roc Gymraeg dyddie yma. Mae'r CD yn cynnwys hip hop, gwerin, roc a phop gydag enwau cyfarwydd a newydd.

O Radio Lux i Rich James, Swci Boscawen i'r Sibrydion. Cafodd yr albwm ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac roedd ar werth mewn amryw o stondinau yn cynnwys stondin Dan y Cownter ei hun.

Pan glywais Huw Stephens yn dweud ar C2 fod y CD ar werth roedd yn rhaid i mi ei gael felly es yn syth at y cyfrifiadur i ddanfon e-bost. Ar ôl tua wythnos cyrhaeddodd y CD a doeddwn methu aros i wrando arno.

Clawr yn adlewyrchu sîn
Mae'r clawr yn ddeniadol iawn yn dangos llun o bobl yn dawnsio mewn gig gyda'u breichiau yn yr awyr, mae hyn i mi yn lun o'r Sîn Roc Gymraeg. Ac mae Dan y Cownter 2 a rhestr o'r artistiaid mewn ffont cyfoes a modern mewn gwyn a melyn. Clawr eithaf syml ond yn effeithiol.

Dywedodd Huw Stephens "Mae'n rhwydd iawn mwynhau Dan y Cownter 2 - rhowch y CD yn y peiriant a gadewch i'r gerddoriaeth wneud gweddill y gwaith. Fe ddewisais y traciau a'r artistiaid am eu cryfderau. Mae llawer yn digwydd gyda cherddoriaeth gyfoes Gymraeg yn barhaol", a chytunaf yn llwyr!

Gan fod cymaint o artistiaid gwahanol mae'n addas ar gyfer pobl o bob oed a bob chwaith cerddorol. Mae'n CD gallwch wrando arni i ymlacio, i baratoi i fynd allan neu i godi ysbryd.

Pwrpas yr albwm oedd i adlewyrchu bwrlwm a chyfoeth byd cerddoriaeth gyfoes Gymraeg a thynnu sylw at y datblygiad a'r diddordeb yn y byd yma yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Credaf ei fod wedi cyflawni hyn yn llwyr ac wedi denu sylw at gerddoriaeth Cymraeg cyfoes. Hefyd mae wedi denu cynulleidfa ehangach i gerddoriaeth Gymraeg cyfoes.

Y caneuon
Y caneuon sydd ar y CD ydy Radio Luxembourg - 'Pwer y Fflwer', Swci Boscawen - 'Adar y Nefoedd', Mim Twm Llai - 'Rhosyn Rhwng Fy Nannedd', Genod Droog - 'Breuddwyd Oer', Stiches - 'Dan Do', Rich James - 'Tir a Môr', Sibrydion - 'Blithdraphlith', Y Diwygiad - 'Mewn Can Mlynedd', Ryan Kift - 'Gola Ola', Acid Casuals - 'Y Ferch ar y Cei yn Rio'.

Fy ffefryn i ar y CD ydy 'Adar y Nefoedd' gan Swci Boscawen. Mae'n gân feddal ac ymlaciedig sy'n hawdd i wrando arni.

Credaf mai'r gân sy'n gwneud i chi eisiau dawnsio iddi fwyaf ydy 'Blithdraphlith' gan Sibrydion.

Rwy'n credu fod tri pheth yn gyffredin i bob artist sydd ar y CD, sef bod gyda nhw dalent, yn brysur ac yn creu cerddoriaeth wych. Ond y siom fwyaf cefais oedd mai dim 'Lisa, Magic a Porfa' oedd ar y CD fel cân Radio Lux.

I orffen credaf fod Dan y Cownter 2 yn CD ardderchog sy'n dangos amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg sydd ar gael ar y foment. Gallwch archebu eich copi am ddim drwy e-bostio post@danycownter.com a gofyn yn neis am gopi!


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý