ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Teledu Teledu: melltith neu fendith?
Heddiw mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd o leiaf ddwy set deledu yn eu cartrefi. Mae'r dodrefn fel rheol yn amgylchynu'r bocs mawr sgwâr, neu erbyn hyn y bocs tenau hirsgwar.

Mae'r teledu wedi dod yn ffordd bwysig ac hanfodol o roi gwybodaeth am ddigwyddiadau'r byd o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Mae'r ffordd yr ymatebodd y gwasanaethau newyddion i ddigwyddiadau Medi yr unfed ar ddeg yn esiampl arbennig o hyn. Mae'n bosib cael eich adlonni o fore hyd nos. Yn dechrau gyda rhaglenni brecwast gan orffen gyda ffilmiau drwy oriau mân y bore.

Wrth i chi ddarllen ymlaen gwelwch y byddaf yn dadle "a ydy'r teledu yn fendith neu yn felltith?" Rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno gyda fi bod y teledu yn fendith llwyr ac yma i aros.

Yn erbyn y teledu
Un o'r dadleuon yn erbyn y teledu yw fod yna ormodedd o ryw a thrais yn cael ei ddangos. Rwy'n cytuno i radde ond dyna pam bod y llinell naw o'r gloch yn bodoli. Ar ôl naw mae'r rhaglenni yn medru bod o natur rhywiol, mae'r iaith weithiau yn anweddus a'r cynnwys yn anaddas i rai. Dylai hyn roi syniad da iawn i bawb ac yn enwedig i rieni fod rhaglenni ar ôl naw yn anaddas i blant yn arbennig. Ar y llaw arall, beth bynnag eich oedran, mae rhai rhaglenni creulon yn cael effaith ar bobl. Mae'r teledu yn ein disenteiddio i'r byd real.

Yn bositif mae'r teledu yn ffordd bwerus o drosglwyddo negeseuon i'r gymdeithas. Mae rhaglenni sebon fel Pobol Y Cwm yn aml yn sôn am broblemau cymdeithasol, er enghraifft cyffuriau, treisio ac yn fwy diweddar, y perygl o ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru. Yn fy marn i mae'r ffaith fod y teledu yn gallu trosglwyddo neges i'r gymdeithas yn beth arbennig. Hefyd ar ddiwedd rhaglen sy'n cynnwys neges bwysig iawn mae'r rhaglenni teledu yn darparu rhif ffôn cymorth, sy'n helpu'r rhai sydd wedi cael profiad tebyg i beth mae'r rhaglen yn ei gyfleu. Felly nid yn unig mae'r teledu yn cyfleu neges bwysig i'r gymdeithas, ond mae hefyd yn rhoi cymorth i bobl sydd wedi cael eu heffeithio yn emosiynol gan y rhaglen.

Mae'r teledu yn cynnig llawer o adloniant i mi ac mae llawer o'r sgyrsiau adref ac yn yr ysgol ar sail beth oedd arno y noson gynt. Rwy'n dwli ar y rhaglen I'm A Celebrity Get Me Out Of Here! a methu aros i weld y gyfres nesaf. Nid wyf yn gweld dim drwg mewn cael eich adlonni gan y teledu os rydych yn ei gadw o dan reolaeth. Mae'n rhaid deall fod yna fywyd y tu hwnt i'r teledu.

Rwyf yn hoff iawn pan fyddaf adref ar ben fy hun i adael y teledu ymlaen, hyd yn oed os nad wyf yn edrych arno. Mae'n gwmni ac nid wyf yn teimlo'n unig. Mae'n gysur i mi pan fydd y nosweithiau'n dywyll ac yn oer ac hefyd yn cynnig ffenestr agored ar y byd sydd o'n hamgylch.

Mae'n rhyfedd meddwl sut yr oeddem yn gallu gwylio Gemau Olympaidd Awstralia o'r ystafell fyw a gweld popeth yn y presennol. Mae'r teledu i mi yn dangos sut mae technoleg wedi datblygu. Yn awr mae'r bocs digidol i gael ac wrth wylio gêm bêl droed rydych yn medru dewis os ydych eisiau sylwebaeth neu lais y dyfarnwr, ail ddangosiadau o goliau neu sialens gwael ac hyd yn oed o ba onglau rydych eisiau gwylio'r gêm. Mae'n bosib siopa ar y teledu ac hyd yn oed chwarae gemau.

Dewis i bawb
Er bod amryw o sianeli i'w cael ar y bocs digidol mae rhai yn meddwl fod llawer o sianeli yn beth gwael. Rwy'n gweld y farn yna yn un hunanol iawn oherwydd fod pawb yn wahanol efo gwahanol ddiddordebau. Er enghraifft mae rhai yn dwli ar y sianel Sky One ac eraill yn cael eu diddanu drwy edrych ar yr History Channel. Mae'r dewis yna ac mae na rhywbeth i bawb.

Dadl rhai yw fod y teledu yn rhoi arferion gwael i blant drwy ddatblygiad rhaglenni fel Jackass a Dirty Sanchez. Ni ddylai plant gael gweld rhaglenni sydd â thystysgrif 18 neu throsodd. Am fod gan lawer o blant deledu yn eu hystafell wely mae'n anoddach i rieni gadw rheolaeth ar beth maent yn edrych arno. Yn fy marn i ni ddylai plant gael teledu yn eu hystafell wely am fod yn ormod o demtasiwn i edrych ar bopeth.

Ar ôl pwyso a mesur, rwy'n credu'n gryf fod y teledu yn rhan o'r gymdeithas. Mae'n gallu eich cludo i wledydd tramor, mae'n gwmni ac yn adloniant. Felly rwy'n credu fod yna le i'r teledu mewn cartref ond y peth pwysig ydy rheoli beth fyddwch yn edrych arno ac nid gadael i'r teledu eich rheoli chi. Does dim bai o gwbl ar y teledu, dim ond ar y bobl sy'n ei orddefnyddio.

Dafydd Rhys Evans. Disgybl 17 oed o Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý