"Gyfeillion, mae'n drannoeth yr Wyl - Mae'n ddydd poenau dwfn - dydd pen a dot' Dydd gŵyl lled wael - dydd gwely a dŵr' Dydd codi a throi, dydd cyd a thri' Dyma atgofion Gwilym Gwenog am y diwrnod wedi'r ffair. Ie, can mlynedd union i ddoe 'roedd 'na edrych ymlaen mawr at Ffair Wenog. Y dyddiad oedd 14eg o Ionawr - er mai yn wreiddiol ar Ionawr y 3ydd 'roedd Dydd Santes Wenog, gyda newid y calendrfe ddisgynnodd Dydd y Santes ar y 14eg. O ran diddordeb, ceir manylion mewn dogfen mor bell yn ôl a 1643 yn nodi Dydd Santes Gwenog. Gyda llaw, dyma'r unig eglwys yng Nghymru sydd wedi ei chysegru i Santes Wenog. Nod y Ffair Nawr te, beth am y Ffair? Fel niferoedd o ffeiriau ledlèd Cymru, ymateb i ofynion yr oes oedden nhw. Dyma, yn ôl yr hanes, yr unig ffair ym mhlwyf Llanwenog. Roedd paratoi at y Ffair yn ddigwyddiad pwysig. Nid oedd marchnadoedd wythnosol fel sydd heddiw - felly nod pob tyddynwr a ffermwr oedd cael anifail i'w werthu yn y ffair.Y ffermwyr â'u gwartheg, moch a cheffylau yn barod i ymgynnull o amgylch Tynporth i gwrdd â'r Dealers' neu'r Prynwyr'. Taro bargen gyda chwsmeriaid unigol oedd yn digwydd wedyn. Dim Evans Bros' bryd hynny. Byddai'r ceffylau yn cael eu clymu ar ochr y ffordd fawr o ben y rhiw hyd at Tyngrug Uchaf. I brofi ysgyfaint y ceffyl - ei redeg i sgwar Cwmsychbant a nôl - prawf prynwr nad oedd gan y ceffyl nam ar ei ysgyfaint. Yn y caeau o amgylch Tynporth ac ymlaen am yr hewl fawr y cedwid y gwartheg, y moch a'r ieir. Roedd Ffair Wenog yn bwysig am ei theirw. Cyn y flwyddyn 1867 (pan ddaeth y trên i Lanybydder) rhaid oedd cerdded y gwartheg i farchnadoedd Lloegr. Gwaith y gofaint lleol oedd cynorthwyo'i gilydd i bedoli'r gwartheg, ac yn aml byddai dau o ofaint lleol yn cael eu cyflogi i gynorthwyo'r porthmyn ar eu taith i Loegr. Byddai angen wyth pedol i gyd - dwy ar bob troed. Nid oedd y bedol yn drwchus iawn - rhyw chwarter modfedd i gyd. Rhaid i chi gofio fod ffeiriau yn bethau cyffredin iawn ardaloedd - pob pentre â'i ffair.Mae sôn am
Evan Lloyd o Cribyn Yn mynd i ffair San Silin; Ffair Llanwnnen lawer gwell Ond bod hi'n bell i'r asyn. Darllenwch fwy...
 |