ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberystwyth
Baner Japan O Japan i Benweddig
O Hydref 28 tan Dachwedd 5, 2006 fe ymwelodd chwech o fyfyrwyr o Kaya yn Siapan â Phenweddig.

Fe ymwelont ag Aberystwyth fel rhan o'r cyfnewidiadau sy'n digwydd ddwywaith y flwyddyn yn sgil Cymdeithas Aberystwyth-Kaya. Yn eu hebrwng ar eu hymweliad 'roedd Atsumi Ohta (sef Maer Tref Siapan), Yuka Ishimoto (y Cyfarwyddwr ar yr ymweliad), a Hiroshi Ueda (sef y Swyddog Addysg).

Cefndir
Mae yna saith cyfnewidiad deu-ffordd wedi cymryd lle yn cynnwys myfyrwyr a disgyblion chweched dosbarth y ddwy dref. Mae'r digwyddiadau hyn wedi eu hysbrydoli gan y diweddar Mr Frank Evans. 'Roedd Mr Evans yn garcharor yn nhref Kaya yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe'i orfodwyd ef a'i gyd-garcharion i weithio yn y pyllau "nickel" yng Nghaya. Yn ystod yr wythdegau fe ddychwelodd Frank Evans i Kaya fel arwydd o gymodi.

Fe ymatebodd trigolion Kaya yn wresog i ymweliad Frank ac fe wnaethant sefydlu Cymdeithas Cyfeillgarwch. Fe sefydlwyd Cymdeithas Aberystwyth-Kaya yn fuan ar ôl hynny yn Aberystwyth, ac fe gymerodd y cyfnewidiad cyntaf le ym 1991.

Fe arhosodd y Japaneaid gyda theuluoedd disgyblion chweched dosbarth Penweddig. Ar y dydd Sadwrn, fe gyrhaeddodd y Japaneaid orsaf Aberystwyth i groeso cynnes Maer y Dref, Michael Jones, ac Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams. Yna fe aethant i gyfarfod â'r teuluoedd y byddent yn aros gyda hwy am weddill yr wythnos.

'Roedd bore dydd Sul yn bwysig iawn i'r ymwelwyr gan iddynt ymweld â bedd Frank Evans yn nghapel Bethel, Tal-y-bont. Yna cafwyd croeso cynnes iddynt yno gan plant Ysgol Sul y capel. Fe berfformiodd y plant bedair eitem i'r ymwelwyr cyn cael y cyfle i sgwrsio â hwy dros lluniaeth ysgafn. Yn y prynhawn, fe arhosodd y Japaneaid gyda'r teuluoedd roeddent yn aros gyda hwy ac 'roedd pob teulu wedi trefnu gweithgareddau unigol i'w gwneud.

Ddydd Llun fe ymwelodd y Japaneaid â'r Llyfrgell Genedlaethol. 'Roedd nifer ohonynt wedi'u plesio gan y ffaith fod dwy i dair ystafell yn cynnwys deunyddiau Japanieg. Ar ôl cinio yn y Llyfrgell fe aethant ar daith gerdded ar hyd y prom gyda prifathro Penweddig, Mr Arwel George.

Cawsant amsugno llawer o hanes ar y daith gerdded, er enghraifft hanes y castell, yr harbwr, yr hen goleg ac yn y blaen. Fe deithiodd y myfyrwyr i Aberaeron ar y dydd Mawrth er mwyn ymweld â Phlas Llanerchaeron a Nant-yr-Arian. Wedi'r holl deithio ac ymweld yn y diwrnodau diwethaf, fe benderfynwyd bod y myfyrwyr yn haeddu hoe ac fe roddwyd bore rhydd iddynt. Manteisiodd y mwyafrif llethol ar y cyfle i fynd i siopa. Yna ar ôl cinio ym Mhenweddig, fe ymwelont ag Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Penglais.

Fe aethant i Ganolfan Dechnoleg Amgen ac Abergenolwyn ar y trên ddydd Iau. Yna, ddydd Gwener fe ddychwelont i Ysgol Uwchradd Penglais yn y bore er mwyn gweld rihyrsal y sioe gerdd "Grease" 'roedd y disgyblion yn prysur baratoi cyn dychwelyd am y tro olaf i Ysgol Gyfun Penweddig.

Fe roddodd côr a band pres yr ysgol (a oedd wedi mynd ar y daith cerdd i'r Almaen yn ystod yr hanner tymor) modd i fyw i'r ymwelwyr drwy berfformio iddynt. Gyda'r nos fe aethant i Frynamlwg er mwyn derbyn derbyniad swyddogol. Yn bresennol, 'roedd Fred Williams (Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion), Elfyn Jones (Aelod o'r Cynulliad) a Gareth Jones (y Cyfarwyddwr Addysg). Fe roddodd y Maer o Japan anerchiad yn Saesneg er mwyn cyflwyno'r criw o fyfyrwyr a dreuliodd yr wythnos yn Aberystwyth. Fe ganodd y myfyrwyr gân am y tymhorau yn y derbyniad swyddogol ac o hyd, fe gyfnewidiwyd rhoddion hael dros ben i'r naill ochr a'r llall ar ddiwedd y noson.

Fe dreuliodd yr ymwelwyr ddydd Sadwrn hefo'r teuluoedd roeddynt wedi aros gyda hwy yn ystod yr wythnos cyn ffarwelio ddydd Sul. Bydd y cyfnewidiad hwn yn aros gyda'r digyblion a gymerodd ran o'r ddwy ochr am byth. Mae nifer o luniau i fyny yn Ysgol Penweddig er mwyn coffau'r digwyddiad arbennig. Os bydd y cyfnewidiad nesaf yr un mor llwyddiannus ag y bu hwn, bydd y disgyblion sy'n cymryd rhan yn lwcus iawn.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý