|
Dechreuodd y Violetones eu set tri chwarter awr, gydag un o'u caneuon cyntaf erioed, 'Cool and Unusual', dilynwyd gan y gân ddwyieithog, 'River Child'. Nesaf roedd 'Moby Dick' gan Led Zeppelin a'r drymiwr, Emyr Humphreys yn chwarae unawd gwych. Ar ôl eu cân mwyaf poblogaidd, 'Under the Tree' a chopi o'r gân 'Walk this Way' gan Aerosmith, chwaraeon nhw'r gân newydd 'Don't let the sun die' cyn gorffen gyda 'Padarn 1' efo esboniad fach am eiriau'r gân cyn ei chwarae. Ffrwydrodd y Llew Du gyda chymeradwyaeth cyn i'r prif fand, Rid of Me, ddod i'r llwyfan.
Chwaraeodd Rid of Me yn wych am awr, gan benderfynu beth i chwarae nesaf fel ddaethon nhw ymlaen. Cyn dechrau, wnaeth y drymiwr, Wez, chwarae unawd. Dywedodd fod ganddo ben tost ofnadwy! Chwaraeon nhw ymhell i fewn i'r nos ac yn ara' deg dechreuodd mwy a mwy o bobl agosáu at y llwyfan i allu dawnsio i 'Mosh' a 'Head-banging'.
Roedd perfformiad baswr Rid of Me, Mickey yn wych. Dechreuodd ddawnsio gyda'r gynulleidfa. Roedd o'n cyfathrebu'n wych gyda nhw.
Lleoliad
Roedd yr ystafell gefn yn y Llew Du yn lle da i'r bandiau chwarae, doedd yna ddim llawer o bobl yno, rhwng 20 a 30. Daeth rhai dynion i mewn o'r bar i ymuno hanner ffordd trwy'r gig hefyd.
Yr awyrgylch
Mae'n rhaid taw dyma'r gig fwyaf cyfeillgar yr ydw i erioed wedi bod iddi. Roedd pawb yn adnabod ei gilydd ac yn rhoi cymeradwyaeth enfawr ar ôl pob cân.
Mae'n rhaid mai uchafbwynt y noson oedd Rid of Me yn chwarae cân yn arbennig i ddyn o'r gynulleidfa o'r enw Joe Marvelli. Trwy gydol y gân (wnaeth barhau am ddeg munud!) doedd neb yn eistedd i lawr. Roedd pawb yn ddawnsio wrth ymyl y llwyfan.
Y Violetones
Dechreuodd y Violetones fel deuawd ym mis Gorffennaf 2005, Emyr Humphreys ar y drymiau a Cynon Hinks ar y gitâr. Mis ar ôl i'r band i sefydlu roedd angen chwaraewr gitâr bas arnynt ac atebodd Twm Dylan o Flwyddyn 10 Ysgol Penweddig yr alwad. Yn fuan ar ôl Nadolig 2005 roedd y Violetones yn fand gyda phedwar aelod gyda Nick Morgan fel arweinwr gitâr. Mae ganddynt un E.P allan o'r enw 'Cool and unusual' ond mae'n rhaid ei brynu gan y band gan nad ydy hi yn y siopau eto. £3 yw'r gost - bargen am bump cân ardderchog.
Rid of Me
Sefydlwyd Rid of Me ym mis Ionawr 2005. Mae ganddynt E.P ar werth o'r enw 'Dischordia' a bydd un newydd o'r enw 'Infection' ar werth am £3 cyn bo hir, allwch brynu gan rywun yn y band.
Gan: Owen Reynolds Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
 |