ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberystwyth
West Side Story. Darparwyd y llun gan Hollie Bennett Tipyn o sioe
Adolygiad o'r sioe West Side Story a lwyfannwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, haf 2007.

Gan fy mod yn hoff iawn o'r fersiwn ffilm o West Side Story roeddwn yn falch iawn i glywed bod Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn bwriadu cynhyrchu'r sioe eleni.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi weld y sioe fel sioe gerdd yn fyw ar lwyfan, felly doeddwn i ddim yn siŵr beth yn union i'w ddisgwyl - a ches i ddim fy siomi.

Mae West Side Story wedi ei seilio yn fras ar stori Romeo & Juliet, a sgrifennwyd gan Shakespeare. Mae'r ddrama wedi ei haddasu i fersiwn fodern o'r stori oesol o ddau berson mewn cariad yn brwydro yn erbyn yr heriau sydd yn rhaid eu hwynebu er mwyn bod gyda'i gilydd.

Yn debyg iawn i stori Romeo & Juliet mae'r prif gymeriadau Tony a Maria yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn. Gosodir y stori yn Efrog Newydd, ac mae'r ddau gymeriad yn perthyn i wahanol griwiau sydd mewn brwydr gyson.

Rhyddhawyd y ffilm y tro cyntaf yn 1961 gan ennill 10 'Oscar' gan gynnwys Cyfarwyddwr Gorau i Robert Wise a Jerome Robbins. Eleni mae'r sioe West Side Stori yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed (perfformwiyd y sioe gerdd am y tro cyntaf yn 1957) ac felly mae'r sioe yn ddewis addas gan Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.

Mae'n hynod o anodd i lwyddo cael braint yr hawliau ar gyfer y sioe hon, felly mae'r Ganolfan yn lwcus iawn i gael y cyfle i gynhyrchu'r sioe ac yn fy marn i maent yn sicr wedi gwneud cyfiawnder â'r sioe wreiddiol. Mae gan y Ganolfan draddodiad cryf o gynhyrchu sioeau haf ardderchog a gallaf ddweud yn hawdd taw dyma ydy'r orau hyd heddiw, yn fy marn i.

Does gen i ddim byd gwael i ddweud am y cynhyrchiad yma - mewn gwirionedd, dyma'r sioe orau dwi di weld mewn amser hir ac mae'n gyfartal i unrhyw sioe y gwelwch chi yn y West End neu ar Broadway! Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y cast eleni yn gast gwych o actorion proffesiynol sydd wedi dod o Gaerdydd a Llundain i berfformio yn Aberystwyth. Roedd hyn yn amlwg iawn o safon y perfformiadau.

Roedd yna deimlad cryf o egni ymhlith y cast, ac roedd hyn yn ychwanegu at fy mwynhad o'r noson.

Gwelwyd hefyd sawl wyneb lleol yn rhan o'r cast, yn bobl ifanc o Ysgol Penweddig ac Ysgol Penglais. Roedd yn anodd gwahanu'r perfformwyr proffesiynol o'r bobl ifanc lleol gan fod safon y dawnsio a'r actio mor ffantastig.

Roedd pob elfen o'r sioe wedi cael ei ddylunio gyda sylw at yr holl fanylion a phob un peth yn eu lle i greu sioe a oedd yn broffesiynol o ran y perfformio yn ogystal ag agweddau dylunio set, golau a cherddoriaeth.

Cafodd y set ei gynllunio yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad yma a roedd yn nodedig iawn. Roedd y llwyfan yn fwy nag arfer ac roedd yna adran oedd yn cylchdroi a gallai gael ei symud i greu golygfeydd gwahanol. Roedd y cynllun goleuo yn effeithiol iawn hefyd yn creu awyrgylch tywyll y gwrthdaro rhwng y Jets a'r Sharks.

Mae West Side Story yn enwog am y dawnsio egnïol ac mae cynhyrchiad y ganolfan yn llawn dawnsio mentrus a difyrrus diolch i'r coreograffydd Anthony Williams sydd hefyd yn chwarae rhan Doc. Roedd y gwisgoedd yn effeithiol iawn ac yn ychwanegu at deimlad y 1960au yn y sioe.

I mi, roedd yna sawl actor wnaeth serennu, er bod gweddill y cast yn hynod o dalentog hefyd. Roedd lleisiau Laura Clements (Maria) a Richard Munday (Tony) yn anhygoel ac yn cario'r sioe drwyddi draw. Roedd perfformiad Sam Taylor-Martin (Anita) yn ddisglair ac roedd ganddi'r gallu syfrdanol i ddal fy sylw hyd yn oed wrth ddawnsio mewn grŵp. Roedd perfformiad Llinos Daniel (Consuela) yn wych ac yn hynod o ddoniol.

Rhwng popeth, dyma sioe wych a oedd yn werth ei gweld. Tybed sut bydd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn curo safon y sioe hon y flwyddyn nesaf?

Gan Hollie Bennett

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý