ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberystwyth
Ffidil Talent ieuenctid y Sir
Carys Mair Davies yn adolygu cyngerdd côrau a cherddorfa Ceredigion yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn Rhagfyr 2006.
Cynhaliwyd cyngerdd safonol dros ben yng Nhanolfan Celfyddydau Aberystwyth gan gerddorfa ieuenctid Ceredigion, côr bechgyn ieuenctid Ceredigion a chôr cymysg ieuenctid Ceredigion. Arweinydd y ddau gôr oedd Mr Emyr Wynne Jones, ac arweinydd y gerddorfa oedd Mr Brian Sansbury.

Roeddwn i yn cymryd rhan yn y gerddorfa ar y fiola. Chwaraesom "The New World Symphony" gan Dvorjak - cerddoriaeth heriol iawn i'w chwarae'n dda mae'n rhaid cyfaddef! Ond ar ôl penwythnos hir o ymarfer caled yn Llangrannog a chymorth gan nifer o staff peripatetig y Sir a myfyrwyr, 'roedd y darn yn llwyddiant ysgubol. Parodd y symffoni 50 munud - a oedd yn cynnwys pedwar symudiad gwrthgyferbyniol.

Bu'r côrau hefyd fel lladd nadroedd yn ymarfer. Bu'r plant a oedd yn y côr cymysg yn ymarfer am oriau dros gyfnod o ddau ddiwrnod; tra bu'r côr bechgyn ychydig yn fwy ffodus yn ymarfer am ddiwrnod yn unig!! Ond er gwaethaf y gwahaniaeth yn yr amseroedd ymarfer - yr un oedd y safon drwy'r gyngerdd i gyd, a hynny bron â chyffwrdd â'r nenfwd!

Wedi i'r ymarferion fod, 'roedd hi'n bryd arddangos y gwaith. Felly, ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 18, 2006 cynhaliwyd cyngerdd 'matinee' yn y prynhawn yng Nghanolfan y Celfyddydau ar gyfer plant ysgolion cynradd ac uwchradd y Sir. Yna, estynnwyd croeso i'r cyhoedd yn y nos - o ffrindiau a theulu, i'r ci a'r gath!

Teilwng ydyw dweud fod pawb a wrandawodd ar y wledd o gyngerdd wedi mwynhau eu hunain i'r eithaf ac wedi cael modd i fyw wrth wrando ar y campweithiau canu ac offerynnol.

Teilwng ydyw dweud hefyd fod yr holl blant a gymerodd rhan yn y gyngerdd wedi mwynhau creu y perfformiadau ac wedi mwynhau bod ar lwyfan.

'Roedd cyngerdd côrau a cherddorfa'r Sir eleni - fel pob blwyddyn arall a fu ac fel pob blwyddyn arall a ddaw dwi'n siŵr, yn llwyddiant ysgubol ac adlewyrchodd y ffaith bod llawer iawn, iawn o dalentau prin yng Ngheredigion.

Gan: Carys Mair Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý