ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberystwyth
Chwarae'r soddgrwth Talentau Ceredigion
Carys Mair Davies yn ysgrifennu am y profiad o berfformio yng nghyngerdd cerddorfa linynnol, côr telynau a band chwyth symffonig Ceredigion yn Chwefror 2007.

Yn ôl yr arfer, fe ddarparodd Cerddorfa Linynnol Ceredigion, Côr Telynau Ceredigion a Band Chwyth Symffonig Ceredigion wledd i'w gwrandawyr ar ffurff cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar yr ugeinfed o Chwefror 2007.

Mae'r tri ensemble cerddorfaol hyn yn ymgynnull yn flynyddol yn nhymor y Gwanwyn, ac yn paratoi ar gyfer cyngerdd ar ddiwedd yr ymarferion.

Eleni roeddwn i yn cymryd rhan yn y côr telynau ac yn y gerddorfa linynnol ar y fiola. Er mwyn medru perfformio ar 20 o Chwefror, 2007 'roedd hi'n angenrheidiol i'r ymarferion ddechrau ar ddiwedd gwyliau hanner tymor.

Dechreuodd yr ymarferion gogyfer â pherfformiad y côr telynau ar 16 o Chwefror, gan ymarfer am dridiau wedi hynny yn ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth. Arweinyddes y côr telynau oedd Mrs Sian Price. Bu hithau a Mrs Delyth Evans yn ein cynorthwyo drwy gydol y cwrs.

Ymysg y darnau â berfformiwyd gan y telynau roedd "Cwlwm Cân" gan Gareth Owen, "Unchained Melody" gan Zaret a threniant o "Everytime" â gyfansoddwyd gan un o'r digyblion.

Dechreuodd yr ymarferion gogyfer â pherfformiad y gerddorfa linynnol ar 16 o Chwefror hefyd. Cafodd yr offerynwyr fynychu cwrs yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog o 16 o Chwefror tan 18fed. Yn ystod y tridiau hynny 'roedd cyfle i'r offerynwyr ladd nadroedd wrth ymbaratoi ar gyfer y cyngerdd efo cymorth nifer o staff beribatetig y Sir.

Cynhaliwyd ymarfer arall ar gyfer y gerddorfa ar y pedwerydd ar bymtheg o Chwefror yn ysgol Gyfun Penweddig. Arweinyddes y gerddorfa linynnol oedd Ms Isobelle McGuiness.

Chwaraeodd y gerddorfa ychydig o weithiau gan Mozart, Corelli ac Arenski.

Bu aelodau'r band chwyth hefyd yn ymarfer yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog, eu harweinydd oedd Mr Brian Sansbury.

Sioeau cerdd a cherddoriaeth o ffilmiau aeth â bryd y band wrth iddynt berfformio caneuon megis themâu "Miss Saigon" a "Jungle Book".

Wedi i'r holl ymarferion fod, 'roedd hi'n bryd arddangos y gwaith. Felly, ar ddydd Mawrth, Chwefror 20, 2007 cynhaliwyd cyngerdd 'matinee' yn y prynhawn yng Nghanolfan y Celfyddydau ar gyfer plant ysgolion cynradd y Sir. Yna, estynnwyd croeso i'r cyhoedd yn y nos - o ffrindiau a theulu, i'r ci a'r gath!

Teilwng ydyw dweud fod pawb a wrandawodd ar y wledd o gyngerdd wedi mwynhau eu hunain i'r eithaf ac wedi cael modd i fyw wrth wrando ar y campweithiau canu ac offerynnol.

Teilwng ydyw dweud hefyd fod yr holl blant a gymerodd rhan yn y gyngerdd wedi mwynhau creu y perfformiadau ac wedi mwynhau bod ar lwyfan. 'Roedd cyngerdd ensemblau'r Sir eleni - fel pob blwyddyn arall a fu ac fel pob blwyddyn arall a ddaw dwi'n siŵr, yn llwyddiant ysgubol ac adlewyrchodd y ffaith bod llawer iawn, iawn o dalentau yng Ngheredigion.

Carys Mair Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý