Yn hwyr ar nos Fercher yr ugeinfed o Fehefin, 2006, roeddwn i'n eistedd yn hamddenol yn y tŷ pan dderbyniais alwad ffôn gan arweinyddes côr rwy'n aelod ohono yn Aberystwyth sef Y Cantorion Madrigalau Elisabethaidd, neu'r 'Mads'. Esboniodd hi wrthyf fod rhywun wedi methu cael pasport mewn pryd i drip y côr i Wlad yr Iâ. Gan mai'r rheswm nad oeddwn i'n mynd ar y trip yn wreiddiol oedd diffyg arian, gofynnodd a fydden i'n hoffi manteisio ar y tocyn sbâr, rhad yma. Yr unig anhawster oedd fod y daith yn cychwyn y diwrnod canlynol. Ychydig iawn o amser gymerodd hi yn y pendraw i fy mherswadio mai syniad da fyddai cychwyn am Lundain yn y bore!
Trefnais fy yswiriant a manylion eraill yn ddidrafferth ac ro'n i ar fy ffordd. Yna wynebais fy mhroblem cyntaf. Stopiodd y bws mewn gorsaf gwasanaethau ger Rhydychen a pan ddychwelais ar ôl prynu paned cloi roedd y bws wedi mynd, â mag i ar y ffordd i Lundain hebddaf. Ga'i sicrhau yma fy mod i wedi cyrraedd nôl i'r bws o fewn yr amser penodedig! Beth bynnag, wedi ychydig o boeni fe ddechreuais fodio, gan lwyddo i gael lifft mor bell â gorsaf trenau Tottenham, tra fod aelod arall o'r côr yn mynd i nôl fy mag o orsaf Victoria yn Llundain (pen y daith i'r bag oedd yn dal i fod ar y bws) gan ddod ag ef i gwrdd â mi yn y maes awyr!
Ymweld â Reykjavik
Diolch i'r drefn dyma oedd yr unig broblem fawr a gododd yn ystod y daith. Treuliodd y côr ryw dridiau yn Reykjavik, gan weld rhywfaint o'r ddinas a'r tirwedd gwefreiddiol sydd o'i hamgylch. Mae tirwedd Gwlad yr Iâ yn amrywio yn fawr, gyda llosgfynyddoedd, geysers swnllyd, llynau anferth, rhaeadrau swnllyd a gwastadoedd ddiffaith i gyd yn cyfrannu i'r golygfeydd anghygoel sydd i'w gweld yno.
Danteithion blasus - "ceilliau bwch gafr unrhywun?"
Mae bwyd y wlad hefyd yn ddiddorol ac yn wahanol dros ben. Un pryd traddodiadol mae'r wlad yn ei gynnig yw ceilliau bwch gafr wedi eu piclo. Fel teithwyr anturus roeddem ni i gyd yn gwasgu ar ein gilydd i drio rhywfaint o'r ddantaith yma. Rhyfedd oedd clywed ymddiheuriadau gan drigolion y wlad fod y bwyd arbennig yma 'allan o dymor'! Peidiwch a gofyn imi sut mae hynny yn gweithio ond rhaid cyfaddef ro'n i'n teimlo rhywfaint o drueni dros yr anifail bach oedd, yn fy nhŷb i, yn gorfod dioddef holl embaras ei lais yn torri pob blwyddyn! Roedd ein côr ni felly yn teimlo yn eithaf cartrefol gan ei bod hi hefyd yn llawn amrywiaeth.
Eleni roedd bron hanner y côr yn Gymry Cymraeg, roedd gennym ni Wyddel bach yn ein mysg ac hyd yn oed aelod oedd yn dod o Wlad yr Iâ; cyd-ddigwyddiad rhyfedd o ystyried y wlad ro'n ni'n ymweld â hi.
Wedi ychydig o ddyddiau yn y brifddinas fe aethom ni i Ogledd y wlad, i dref bach o'r enw Blönduós. Yma fy gafon ni gyfle i ymarfer rywfaint, oedd yn dda iawn imi gan nad oeddwn wedi gweld sawl darn roedd y côr yn canu ar y daith yma o'r blaen! Fe gafon ni gyfle hefyd i fanteisio yn fawr ar yr 'hot-tubs' a 'saunas' oedd ym mhob un o'r chalets bach lle roeddem ni'n aros. Yr unig anfantais oedd gan fod y wlad yn ymdrechu i harnesu gymaint o egni ag sy'n bosib o'i ffynhonellau naturiol, roedd y dŵr cynnes i gyd yn drewi rywfaint o'r sylffwr sydd yn y tir folcanig. I'r rheiny ohonoch sydd heb gael y profiad arbennig hwn, mae gan sylffwr arogl tebyg i wyau. Hyfryd!
Ar ôl gwneud sawl cyngerdd bach iawn mewn gŵyl Bysgota, Gwesty a hyd yn oed cartref hen bobl, roedd hi'n bryd i ddychwelyd i Reykjavik. Roedd ein prif gyngerdd yn cael ei gynnal mewn Eglwys yno ar noson olaf y daith. Er mai dim ond ryw hanner cant o bobl ddaeth i wrando arnom, roedd yn ymddangos fel pe baent wedi mwynhau ein detholiad eang o ddarnau, oedd yn cynnwys madrigalau, sawl darn Gymraeg a nifer o ganeuon traddodiadol Gwlad yr Iâ. Fel gallwch ddychmygu roedd dathlu mawr y noson honno!
Ar ein ffordd i'r maes awyr fe ymwelon ni â phyllau cynnes enwocaf y wlad sef y 'Blue Lagoon', ac rwy'n falch i ddweud ein bod ni wedi cyrraedd nôl i Gymru fach wedi blino'n lân ond wedi mwynhau pob eiliad o'n hamser ni yn y wlad arbennig honno. Yr unig gwestiwn dydw i dal heb gael ateb iddo yw ble oedd yr holl ia?!
Emyr James
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.