ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llanbedr Pont Steffan
Ysgol Gyfun Llambed Eisteddfod yn dathlu'r deugain
Roedd Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbedr Pont Steffan yn dathlu'r deugain yn 2007 ac yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf mewn Pabell ar gae'r Ysgol Gyfun yn 1967 o ganlyniad i rodd ariannol a gynigwyd gan Syr D J James, Pantyfedwen, 225, Stryd Oxford Llundain er mwyn sefydlu Gŵyl yn Llanbedr Pont Steffan yn enw ei frawd Rhys Thomas James. Bu'n rhaid ffarwelio â'r babell yn 1979 oherwydd problemau ariannol a chynnal yr Ŵyl yn neuadd yr Ysgol Gyfun.

Yn yr Eisteddfod gyntaf gwelwyd geni 'Pantyfedwen', un o emynau mawr ein cenedl - y geiriau wedi eu cyfansoddi gan Rhys Nicholas. Y flwyddyn ganlynol daeth y dôn i'r brig o waith Eddie Evans. Diddorol yw nodi nad Pantyfedwen oedd dewis cyntaf y beirniaid, ond tôn arall na fyddai'n bosib i unrhyw gynulleidfa ei chanu hen ymarfer cyson. Felly gofynnwyd iddynt ail ddewis a dyma 'Pantyfedwen' yn dod i'r brig. Mae Pantyfedwen yn boblogaidd iawn mewn eisteddfodau, cymanfaoedd, cyngherddau ac yn y blaen ar hyd a lled y byd ac yn gynharach yn 2007 fe'i dyfarnwyd yn Emyn y Flwyddyn.

Ar hyd y blynyddoedd mae'r Eisteddfod wedi denu cystadleuwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ac mae'n dal i wneud hynny. Mae nifer helaeth o'r enillwyr erbyn hyn yn enwau cenedlaethol a rhai ohonynt yn rhyngwladol. Dyma rai ohonynt - Bryn Terfel, Gwyn Hughes Jones, Shân Cothi, Delyth Medi, Eirian a Buddug James, Dennis a Patricia O'Neill, Simon Fisher, Dai Jones, Dafydd Edwards, Elsie, Delyth Mai a Gary Nicholas, Peggy Williams, Leah Owen a Rosalind Lloyd.

Mae'r Eisteddfod wedi datblygu ac arbrofi yn ystod ei bodolaeth. Yn 1976 arbrofwyd gydag Adran newydd gyfyngedig i blant oedd yn byw yn nhalgylch yr Ysgol Gyfun. Mae'r Adran yn parhau i fynd a'r cystadlu yn niferus ac o safon uchel iawn. Prawf o hyn yn flynyddol yw gweld nifer o'r plant a'r bobl ifanc lleol yn dod i'r brig yn y cystadlaethau agored ac yn llwyddiannus hefyd mewn Eisteddfodau bach a mawr ar hyd a lled y wlad.

Hefyd yn y saithdegau sefydlwyd Adran Gelff a Chrefft ac mae'r arddangosfa yn flynyddol yn werth ei gweld.

Janet Evans

  • 'Na'r 'steddfod ore to'! (gan Eryl Jones)
  • Safon eithriadol yn Eisteddfod y dathlu


  • Trefi
    Radio Cymru
    Papurau Bro
    Bws ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý