ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pontrhydfendigaid
Bryn Fôn Gig Bont
Adolygiad o gig Bryn Fôn ym mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Medi 2007 gan Carys Mair Davies.

Ar ddydd Sadwrn, 29 Medi 2007 cynhaliwyd sioe geffylau a disgo ym Mhontrhydfendigaid, y sioe geffylau yn y prynhawn a disgo fin nos. Mae'r diwrnod hyn yn y Bont yn ddiwrnod enwog ac fe heidiodd tyrfaoedd yno y llynedd, fel eleni, i fwynhau a chymdeithasu gyda ffrindiau.

Buais i yn y gig yn unig eleni oherwydd doedd gen i ddim diddordeb yn y sioe geffylau. Cynhaliwyd y gig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid - sydd yn dal hyd at 2900 o bobl. 'Roedd ffair fach iawn yn bodoli tu allan i ddrysau'r Pafiliwn hefyd er mwyn diddanu'r plant ifanc.

Dechreuodd y gig am wyth o'r gloch yr hwyr. Y band cyntaf i berfformio i baratoi'r gynulleidfa ar gyfer prif seren y noson oedd Caryl a'r Band. Nid oeddwn wedi clywed amdanynt o'r blaen ac os ydw i'n onest, ni wnaethant argraff dda iawn arnaf. Er, wedi dweud hynny fe ddechreuodd y canu wella erbyn diwedd eu awr o berfformio, yn enwedig pan wnaethant ganu "Pishyn Pishyn" gan Newshan.

Am tua 10.30 yr hwyr roedd pawb yn dawnsio o flaen y llwyfan gan fod Bryn Fôn a'i fand wedi dechrau perfformio. 'Roedd y gerddoriaeth yn sgrechian a phawb yn dawnsio i hen ffefrynnau megis "Rebal Wicend" ac "Abacus". Cafodd Bryn Fôn gymaint o groeso fel y gorfu iddo berfformio tri encore ar ddiwedd ei berfformiad gwefreiddiol. Ac nid y bobl ifanc yn unig oedd wrthi'n partïo, ond 'roedd hi'n eithaf anodd cyrraedd at flaen y llwyfan gan fod cymaint o ddynion a menywod yna, sy'n ffans o Bryn Fôn ers ei ddyddiau cynnar fel seren bop yn canu mewn tafarndai lleol! Gorffennodd ei berfformiad am hanner nos ac fe oleuwyd y Pafiliwn unwaith eto i bawb gael dweud hwyl fawr am y tro wrth hen ffrindiau a ffrindiau newydd. 'Roedd rhai'n teimlo'n eithaf emosiynol ar ddiwedd y noson.

Medraf ddweud yn hollol hyderus ar ran pawb a fu ym Mhafiliwn Bont nos Sadwrn 29 Medi, i ni gyd gael modd i fyw yno. 'Roedd nifer o fysiau wedi teithio yno o bentrefi megis Tregaron a Llanrhystud. Ac 'roedd hynny ar ben y degau ar ddegau o geir a deithiodd yno.

Dwi methu aros tan gig Bont yn 2008. Ond gair o rybudd i gloi - os ydych am ddod cofiwch brynu tocyn o flaen llaw gan eu bod yn costio £2 yn fwy wrth y drws ar y noson. Mae'n siŵr y bydd manylion eto y flwyddyn nesa' lle gallwch brynu tocynnau o flaen llaw. Peidiwch â cholli allan ar nos Sadwrn bythgofiadwy flwyddyn nesaf!

Carys Mair Davies

  • Mwy am y Ffair Greffylau
  • Gwefan Bont

  • Cyfrannwch

    Megan Mair
    Dyna beth od, o'n i'n meddwl mai'r grêt Edwrad H wnaeth y gân 'Pishyn Pishyn'?


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Trefi
    Radio Cymru
    Bws ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
    Lluniau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý