Gwnaed baner swyddogol Gŵyl Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro 2007 gan Ann Arch, Elder Cottage, Pontrhydfendigaid. Cynlluniwyd y faner gan athro celf Ysgol Uwchradd Tregaron, Huw Williams. Wedi i'r faner gael ei chludo i wahanol ddigwyddiadau i gael ei harddangos yn ystod y misoedd cyn yr ŵyl, ei chartref parhaol wedi hynny yw ar fur y llyfrgell yn Neuadd Pantyfedwen.
Yn ddiddorol iawn, mam Ann, sef y diweddar Mrs Mair James o Landeilo a luniodd faner yr ŵyl y tro diwethaf iddi gael ei chynnal ym Mhontrhydfendigaid, nôl yn 1989, ac mae honno mewn ffrâm arbennig i'w gweld yn y llyfrgell. Dymuna pwyllgor gwaith
yr ŵyl ddiolch i Ann, Rol a'r teulu am eu haelioni yn cyflwyno'r faner yn rhodd i'r ŵyl.
Mwy am Å´yl Cerdd Dant Ystrad Fflur 2007
 |