ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pontrhydfendigaid
Yr arlunydd Ogwyn Davies yn cyflwyno'r print cynta o'i lun o Gors Caron i Ian Huws, cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Chyhoeddusrwydd. Llun o Gors Caron
Ogwyn Davies, un o brif artistiaid Cymru,a beintiodd llun Cors Caron - darlun swyddogol Gŵyl Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro 2007.

Gwerthwyd 100 o luniau rhifedig a mowntiedig, wedi eu llofnodi gan yr artist, Ogwyn Davies, Tregaron.

Ganwyd Ogwyn Davies yn Nhrebanos, Cwm Tawe yn 1925 a symudodd i Dregaron hanner canrif yn ôl lle bu'n dysgu fel athro celf yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae ei luniau yn gyfarwydd i gasglwyr a mynychwyr arddangosfeydd ledled Cymru, lluniau sy'n creu naratif o Gymru drwy gyfrwng paent, geiriau, symbolau ac elfennau ffigurol.

Hwyrach mai ei lun enwocaf yw hwnnw o Soar y Mynydd, gyda geiriau emynau yn codi allan o'r muriau a'r to, gan hofran yn yr awyr. Saif ochr yn ochr â 'Salem' Curnow Vosper fel un o eiconau Cymru.

Prif nodwedd y darlun o'r gors yw'r lliwiau sy'n nodweddiadol o'r fangre, lliwiau brown, glas, melyn a llwyd. Mae'n llun argraffiadol sydd hefyd yn adlewyrchu elfennau haniaethol. Mae'r dewis o'r llun arbennig hwn yn un addas iawn fel lleoliad ac fel symbol gan fod Cors Caron ynghanol dalgylch yr Å´yl. Yn wir, mae'n ymylu'n ddaearyddol ar nifer o'r ardaloedd sydd o fewn dalgylch bro'r Å´yl.

Hoffai Pwyllgor yr Å´yl Cerdd Dant ddiolch i Ogwyn Davies, ac i berchennog y llun gwreiddiol, Dr Mair Beetham, Llundain (gynt o Dregaron) am eu caniatad caredig i atgynhyrchu a marchnata'r llun.

Y llun: Yr arlunydd Ogwyn Davies yn cyflwyno'r print cynta o'i lun o Gors Caron i Ian Huws, cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Chyhoeddusrwydd.

  • Mwy am yr Å´yl Gerdd Dant



  • Trefi
    Radio Cymru
    Bws ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
    Lluniau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý