Ar ôl sgwennu fy nyddiadur ddoe (dydd Mercher) aethom o amgylch y maes yn edrych am ddefaid Danni Jones a Gareth Ruggeri, aelodau o glwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Caereinion. Nid oedd gen i unrhyw ddiddordeb yn y defaid ond roedd Tom a Tom Melingrug yn mwynhau syllu arnynt!
Roedd y tywydd yn dal i fod yn neis. Aethom yn ôl i'r tent - roedd wedi sychu llawer dan draed yn y pentref ieuenctid! Roedd yn addo tywydd gwael ar gyfer dydd Iau felly aeth Tom Melingrug a Sioned adref, ond aeth Tom a finnau i mewn i Builth a chwrdd â Meilir - doedden ni ddim wedi gweld Meilir am gyfnod! Cawsom ddiod yna cyfarfod mam ar gyfer Indian arall - dydw i erioed wedi bwyta allan cymaint yn fy mywyd!!
Pan gyrhaeddon ni yn ôl i'r babell roedd Geraint, Jenny, Cerri a Callum yna, ac roedd yn rhaid i ni orffen yr holl ddiod felly cawsom barti yn y babell!! Roedden ni'n medru clywed y grŵp Crazy Ape o'r babell, roedden nhw'n swnio'n dda iawn a buon ni'n canu tan oriau mân y bore!
Cododd pawb yn gynnar heddiw bore (dydd Iau.) Roedd yn rhaid i Phill Ger a Jenny fod yn Y Drenewydd erbyn naw! I was not impressed! Codais a dechrau pacio fy mag, ac erbyn hanner awr wedi naw roedd Tom a finnau ar y maes. Roedd hi'n glawio'n drwm - YCH A FI!!
Ryden ni wedi treulio'r diwrnod yn crwydro'r maes yn edrych am fargenion yn y stondinau! Ar ôl awr neu ddwy ar y maes roedd cerdded yn y glaw yn ormod, ac aethom i'r grandstand er mwyn sychu a gwylio'r ceffylau!
Mae hi wedi bod yn glawio trwy'r dydd heddiw, felly dwi'n meddwl mynd yn ôl i'r tent, gorffen pacio ac ail lenwi'r car. Dydw i ddim yn edrych ymlaen i gael fy nghar allan o'r maes parcio, dwi'n meddwl fydd o'n sownd!!!
Ryden ni wedi mwynhau ein wythnos yma ar y maes ond piti am y tywydd a'r holl faw. Mae pob darn o ddillad sydd gen i wedi ei orchuddio yn y baw ac rwy'n edrych ymlaen i fynd adref a chael bath cynnes! Rwy'n meddwl fydd yn rhaid cael carafán y flwyddyn nesaf ac aros yn rhywle sydd â chawodydd lot yn well!
Dyddiadur dyddiol Delyth
 |