ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sioe Frenhinol Cymru
Ffion Jones yn sgrifennu'r dyddiadur ar fws ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar faes y sioe Dydd Mawrth
Bu Ffion ar fws ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar faes y sioe ddydd Mawrth yn ysgrifennu ei chofnod diweddaraf o'i dyddiadur.
Noson a hanner neithiwr! Siwr taw y 'Wurzels' yw hoff fand pob un person ifanc sy'n mynd i'r Pentre Ieuenctid, gan fod PAWB yn canu BOB un gair o BOB un cân! Odd e'n hollol wyllt!!

Rhywsut wnes i a un o'm ffrindie chwilio ein hunen yng nghanol yr holl fwrlwm a gwthio'r dorf ac erbyn diwedd y set roodd y ddwy ohonom yn wlyb stecs gyda'r holl gwrw oedd yn cal ei daflu dros y gunulleidfa!! Wedi dweud hynny roedd hi'n agoriad gwych i'r noson oedd i ddod!

Newshan ym Mhentre Ieuenctid y Royal Welsh Newshan, band o ardal Aberaeron oedd yn dilyn ar y llwyfan a wnes i fwynhau eu perfformiad nhw'n aruthrol. Ma' gan Meleri, y prif leisydd, lais gwych ac roedd cymesgedd iach o glasuron gyda nhw i ddiddanu'r dorf. Da hefyd oedd ei fersiwn ychydig yn fwy rocin nhw o 'Hen Wlad fy Nhadau' i orffen eu set.

Y bore drannoeth i'r noson gynt
Ar ôl holl fwrlwm y noson gynt deffro braidd yn hwyr oedd fy hanes i y bore 'ma. Ond ar ôl brecwast o frechdane bacwn o ni'n hen ddigon parod i fynd lawr am dro o gwmpas y maes. Ma' na hen ddigon o stondine yma sy'n gwerthu pob math o bethe i chi fedru crwydro am orie a chefais fy nhemptio i wario'n arian prin ar sawl achos!

Un o ddigwyddiadau sbesial y dydd yn y Prif Gylch oedd y ceffylau o Sbaen a bues i'n eistedd ac yn gwylio rhein am ychydig wrth aros i gwrdd â ffrind arall sy'n gweithio yn y Sioe.

Ymlaen wedyn i eistedd eto yn yr haul tu allan i'r "bandstand" tra'n cal cinio. Roedd band jazz wedi dechre chwarae yn ystod yr amser hyn, a cefais awr fach braf iawn yn gwrando, joio ac yn gwylio'r byd yn mynd heibio. Mae'r sioe yn le da iawn i wneud hynny.

Frizbee a Meinir Gwilym sy'n chwarae lawr yn y Pentre' Ieuectid heno (nos Fawrth) felly mae'n argoeli'n noson dda arall fan hyn yn y 'Royal Welsh'. Cewch chi'r hanes i gyd pnawn yfory!

Ffion Jones

Cofnodion dyddiadur Ffion Jones hyd yn hyn


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Eich neges

Rhaid cael 'Flash 9' i weld y ticer ar y ddalen hon. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam yma.

Bywyd Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý