ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tregaron
Lansio'r llyfr. O'r chwith i'r dde: Cyril Evans; Marged Phillips: John B. Lewis a Mair Owen y tîm golygyddol ac aelodau o Gymdeithas Hanes Tregaron a'r cylch a Helen Maurice Jones a Lindsey Porter o gwmni cyhoeddi Landmark Llyfr Hanes Tregaron
Olrhain hanes Tregaron mewn lluniau a wneir mewn llyfr a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes Tregaron a'r fro ym mis Tachwedd 2006.
  • Oriel o hen luniau o Dregaron o'r llyfr

    Bu aelodau'r Gymdeithas yn casglu hen luniau i'w rhoi mewn llyfr dwyieithog arbennig sy'n cyflwyno cefndir y dref, yn bennaf i bobl sydd wedi symud i'r ardal heb lawer o wybodaeth am ei hanes.

    Mae John Lewis yn aelod o'r Gymdeithas ac yn un o bedwar o olygyddion y llyfr a lansiwyd ddydd Sadwrn, Tachwedd 18, 2006 yng Nghanolfan y Barcud, Tregaron, lle ddaeth dros 200 o bobol ynghyd.

    "Canrif mewn llun yw'r llyfr, o 1880 1980. Y syniad oedd gyda ni oedd i gofnodi'r newidiadau sydd wedi bod mewn canrif yn Nhregaron. Os ydych chi o dan, dwedwch 40 oed, fyddech chi ddim yn cofio lot o bethau am y pentref. Er enghraifft y rheilffordd, byddech chi ddim yn gwybod bod na reilffordd byth wedi bod yn mynd trwy Dregaron.

    "Roedd na hanes cryf o ferlota yn Nhregaron hefyd, ond mae lot o bobol wedi anghofio am hyn. Rydyn ni am ddangos y busnesau oedd yma, y ffeiriau oedd yn digwydd a'r adeiladau sydd wedi mynd i golli.

    "Roedden ni am roi blas i bobl sydd wedi symud i'r ardal, yr hanes trwy gyfrwng llun."

    Lluniau
  • Oriel o hen luniau o Dregaron o'r llyfr
    "Mae'r llyfr yn llawn lluniau, a rydyn ni wedi sgrifennu captions dwyieithog yn dweud yr hanes. Dyw hwn ddim yn lyfr academaidd o gwbwl, ond llyfr allwch chi ei godi i gael golwg cloi arno a wedyn ei roi lawr.

    "Roedden ni yn awyddus i roi cyfle i'r bobl hynny oedd wedi cofnodi Tregaron mewn lluniau, a rydyn ni wedi cael benthyg lluniau yn hael iawn gan bobl y pentref. Rydyn ni wedi cael lluniau o gasgliad y diweddar Ron Jones y Medical Hall o Lyfrgell y Sir, Ceredigion a oedd yn ffotograffydd keen iawn ac wedi cofnodi llawer iawn o Dregaron.

    "Roedd na ffatri bolish arfer bod yn Nhregaron. Llosgwyd y lle i'r llawr a chollodd un o'r gweithwyr ei fywyd. TÅ· sydd yna nawr, ac os ydych chi o dan rhyw oed arbennig yna fyddech chi byth yn gwybod bod na ffatri di bod yna.

    "Yn yr un modd, mae gyda ni lun o gae yn Nhregaron pan gynhaliwyd sioe yna, ond tai sydd yna nawr."

    Cyhoeddwyd y llyfr ar y cyd rhwng Cymdeithas Hanes Tregaron a'r Cylch a Chwmni Cyhoeddi Landmark Cyf.

    Cymdeithas Hanes Tregaron a'r Cylch
    Sefydlwyd y Gymdeithas tua chwe mlynedd yn ôl o dan arweiniad y Parchedig Roger Ellis Humphreys. Mae'r Gymdeithas yn cwrdd yn ystod y gaeaf ac yn gwahodd pobl ddiddorol fel siaradwyr gwadd.

  • Adolygiad o'r llyfr


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Papurau Bro
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý