Ffilmiwyd y clip hwn ar ffilm 8mm gan y diweddar Bert Passant o'r Drenewydd. Cafwyd caniatad i ddangos y clip ar y wefan hon gan David Pugh, ar ran Grŵp Hanes Lleol Y Drenewydd.
Roedd maes yr Eisteddfod ar y tir lle saif Ysgol Gynradd Hafren, Ysgol Ladywell Green a Ysgol Dafydd Llwyd heddiw. Mae'r clip fideo hwn yn cynnwys clipiau o enillydd y Goron sef y Prifardd Tom Parry-Jones a'r Archdderwydd Cynan wedi seremoni'r Coroni yn 1965.
Gwyliwch y ffilm o'r Eisteddfod Genedlaethol
Noder does dim sain ar y clip fideo hwn.
 |