Ffilmiwyd y clip hwn ar ffilm 8mm gan y diweddar Bert Passant o'r Drenewydd. Cafwyd caniatad i ddangos y clip ar y wefan hon gan David Pugh, ar ran Grŵp Hanes Lleol Y Drenewydd.
"Gwnaed difrod mawr i'r Drenewydd gan lifogydd mawr 1964. Cododd y dŵr ar ei uchaf tua 4 o'r gloch yn y bore. Erbyn bod digon o olau i Bert allu ffilmio'r llifogydd roedd lefel y dŵr wedi gostwng tua 3 neu 4 troedfedd, er hynny roedd yn dal yn frawychus i weld (roeddwn i yno!)" meddai David Pugh.
Gwyliwch y ffilm o'r llifogydd
Noder does dim sain ar y clip fideo hwn.
 |