ÃÛÑ¿´«Ã½

Al Lewis Band

Al Lewis

"Melodïau bachog, canu efelychiadol, hapus er weithiau'n felancolaidd, ac awgrym o ganu gwerin, mae gan gerddoriaeth Al set o gynhwysion na all fethu cyffroi chwaeth cerddorol y gwrandawr achlysurol." (David Harry)

Mae presenoldeb Al Lewis Band yng Nghymru ac ar donfeddi radio Cymreig yn amlwg iawn ers eu llwyddiant yn cipio'r ail wobr yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2007 gyda'r trac angerddol, Llosgi.

Yn wreiddiol o Bwllheli, mae Al bellach yn byw yn Llundain ond yn dal i berfformio'n gyson yng Nghymru gyda'r band sy'n cynnwys Arwel Lloyd Owen sydd hefyd yn perfformio o dan yr enw Gildas.

Rhwng 2007 a 2008 rhyddhawyd dwy EP yn y Gymraeg gan y band sef Byw mewn Breuddwyd a Dilyn pob Cam. Yna cododd proffil y band wrth berfformio mewn gwyliau fel Sŵn, Sesiwn Fawr, Maes B a Wakestock, ynghyd â rhaglenni teledu fel Bandit a Nodyn. Mae'r band hefyd yn cyfrannu'n gyson ar sesiynau C2 ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru.

Rhyddhawyd albwm cyntaf y band Sawl Ffordd Allan yn 2009 gan gynnwys y gân boblogaidd Gwenwyn a pherfformiwyd gan y cawr cerdd ei hun, Meic Stevens.

Wedi iddo rhyddhau ei albwm Saesneg cyntaf, In the Wake (ALM, 2010), daeth y cyfle i Al i fod yn artist y mis i'r cwmni Caffe Nero, gan sicrhau dechreuad prysur i 2011 wrth deithio ledled Prydain yn canu mewn caffis.

Yn 2011 rhyddhawyd yr ail albwm Cymraeg Ar Gof a Chadw. A'r tro hwn Elin Fflur yw'r artist gwadd sy'n cyfrannu i'r trac Hafan. Dyma flwyddyn dda i Al gan iddo ennill y wobr 'Artist Gwrywaidd y flwyddyn' yng Ngwobrau RAP ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru .

Newyddion

Sesiynau

Al Lewis Band

Sesiwn Acwstig Al Lewis Band

04 Ebrill 2011

Sesiwn acwstig Al Lewis Band ar gyfer rhaglen Huw Stephens.

Caneuon Nadolig Sesiwn C2

Caneuon Nadoligaidd â recordiwyd yn arbennig i C2.

Adolygiadau

Adolygiad CD Al Lewis

6 Ebrill 2009

Beth yw barn yr adolygwyr am Al Lewis - Trywydd Iawn?

Erthyglau

Eisteddfod yr Urdd 2008

Nid corau, llefaru a dawnsio gwerin yn unig welwch chi yn Eisteddfod yr Urdd eleni - mae Magi Dodd a Glyn Wise yn crwydro'r maes!

Al Lewis

3 Gorffennaf 2007

Al Lewis

3 Gorffennaf 2007

Eraill


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.