
Prif leisydd y grŵp Catatonia gynt, sydd bellach yn artist unigol llwyddiannus.
Ganwyd Cerys yng Nghaerdydd ond llaw feddyg yw ei thad a gorfu i'r teulu symud llawer yn ei ddilyn ef, i Abertawe gyntaf ac yna i ogledd Penfro ac yno mae'r teulu hyd heddiw.
Y deintydd oedd ei llysenw yn yr ysgol gynradd gan mai hi oedd yn tynnu dannedd babi'r disgyblion eraill!
Datblygodd ei diddordeb mewn cerddoriaeth yn ystod gwyliau'r ysgol yng ngogledd Penfro. Yno yr aeth hi ati i ddysgu chwarae'r gitâr acwstig a chwarae alawon y Beatles a hen alawon Cymreig.
Yn ystod haf 1992 ffurfiwyd Catatonia - ar ôl i Mark Roberts gyfarfod Cerys yn canu ar y stryd yng Nghaerdydd yn ôl y chwedloniaeth. Cawsant gynnig recordio ar y label Crai a threulio'r blynyddoedd nesaf yn teithio a chwarae mewn gigs o gwmpas Cymru.
Cyhoeddwyd albwm cyntaf Catatonia, 'Way Beyond Blue' yn 1996 gan roi cyfle ehangach i bobl glywed y rîffs gitâr popaidd a'i llais swynol ac unigryw. Ei llwyddiant mawr cyntaf oedd y sengl 'You've Got a Lot to Answer For'.
Yn 1998 cyrhaeddodd y sengl 'Mulder and Scully' y pump uchaf yn y siartiau yn y DU ac fe ddilynodd 'Road Rage' yn fuan wedyn. Mae'r ddwy gân ar yr albwm boblogaidd iawn, 'International Velvet' ac fe fu Cerys am gyfnod yn Frenhines Bop yn ymddangos ar dudalennau blaen cylchgronau poblogaidd.
Yn 1999, cyhoeddwyd albwm boblogaidd arall sef 'Equally Cursed and Blessed' a sylfaen apêl Catatonia oedd carisma Cerys, y caneuon pop llwyddiannus a pherfformiadau byw cryf iawn. Pan ryddhawyd yr albwm nesaf yn 2001 'Paper Scissors Stone' trefnwyd taith yr un pryd. Ond gohiriwyd y daith gan i Cerys adael y band ar sail blinder a phoen meddwl.
Yn 2002 recordiodd Cerys y thema i'r gyfres deledu i blant, 'Sali Mali' a threulio rhan o'r flwyddyn yn Nashville Tennessee gyda'i darpar ŵr yn paratoi albwm o ganeuon gwerin a gwlad. Cyhoeddwyd yr albwm ar 19 Mai 2003 sy'n gymysgedd o'r gwerin, gwlad a chaneuon gwreiddiol gan Cerys heb anghofio emyn Gymraeg.
Yn 2007, cyhoeddodd Cerys Matthews ei bod hi a'i gŵr yn ysgaru, a symudodd hi a'i dau o blant yn ôl i Gymru. Yn Nhachwedd 2007, roedd yn ôl yn y penawdau unwaith eto pan ddaeth yn bedwerydd yn y gyfres deledu realiti 'I'm A Celebrity ... Get Me Out Of Here.'
Erbyn hyn mae Cerys yn cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth ar ÃÛÑ¿´«Ã½ 6 Music ac yn parhau i ryddhau albymau yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cynnwys, 'Cockahoop' (2003), 'Never Said Goodbye, (2006),' Paid Edrych i Lawr' (2009) a 'Don't Look Down' (2009.) Yn 2010 rhyddhawyd ei halbwm, 'Tir', casgliad o ganeuon Cymraeg traddodiadol yn cynnwys Calon Lân, Cwm Rhondda, Migldi-Magldi, Myfanwy a Sospan Fach. Dyma'r drydedd albwm iddi ryddhau o dan ei label ei hun "Rainbow City."
Ym Mai 2011 cyhoeddodd yr albwm, 'Explorer'. Y tro hwn, defnyddiodd dechneg tra gwahanol tra'n recordio. Penderfynodd y byddai'n recordio'r albwm heb unrhyw fformat na sain a baratowyd o flaen llaw ond yn hytrach, gadael i'r elfen 'fyrfyfyr' arwain y gwaith. Cyhoeddwyd llyfr i blant ganddi o'r enw, 'Tales From the Deep' hefyd yn 2011.
Newyddion

Cerys yng Ngwyl Dewi Sant
14 Rhagfyr 2007
Ar Fawrth 1af 2008 bydd Cerys Matthews yn hed-leinio Gŵyl Dewi Sant yn Sir Fôn.
Cerys yng Ngwyl Dewi Sant
14 Rhagfyr 2007
Ar Fawrth 1af 2008 bydd Cerys Matthews yn hed-leinio Gŵyl Dewi Sant yn Sir Fôn.
Adolygiadau

Adolygiad CD Cerys Matthews Awyren
15 Hydref 2007
Curig Huws a Steffan Rhys Williams yn adolygu Awyren = Aeroplane
Erthyglau

Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales Music

More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.