Aelodau
- Geraint Lovgreen: Llais/allweddellau
- Owen Owens: Drymiau
- Iwan Llwyd: Gitâr fas
- Elwyn Williams: Gitâr
- Kevin Jones: Gitâr
- Huw Wirion: Gitâr
- Bari Gwilliam: Trymped
- Owain Arwel Davies: Trombôn
- Gwil John, Edwin Humphreys, Huw Lloyd Williams ac Einion Gruffudd: Sacsoffonau
"Pump ar hugain oed a dwi'n teimlo'n hen..." oedd cytgan Geraint Lovgreen nôl yn 1981 - ond dydy hynny ddim wedi'i rwystro rhag barhau i berfformio'n gyson ers hynny.
Synau hapus adran bres yr Enw Da a geiriau dychanol y prif ganwr yw dwy elfen unigryw'r grŵp, gydag ychydig o faledi mwy difrifol, yn cynnwys Nid Llwynog oedd yr Haul, a enillodd wobr Cân i Gymru yn 1982 i Geraint Lovgreen fel cyfansoddwr, gyda geiriau gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd. Yn chwarae'r bas yn y grŵp mae Prifardd arall, Iwan Llwyd, sydd hefyd wedi cyfansoddi nifer o'u caneuon mwy barddonol eu naws.
Mae dylanwadau grwpiau a cherddoriaeth yr 80au i'w clywed yn eu sain; ac fel ffasiwn yr 80au, dyma grŵp sydd yn cael cyfnodau o boblogrwydd mawr o dro i dro, yn enwedig fel band byw - gyda seid-lein arbennig yn chwarae mewn priodasau.
Gyda chaneuon crafog, doniol fel Dwi'm Isio Mynd i Sir Fôn, a Dwi'n Cael Fy Stalkio Gan Siân Lloyd, mae hiwmor yn elfen allweddol yn eu caneuon a'u perfformiadau byw.
Rhyddhaodd Geraint Lovgreen a'r Enw Da albwm newydd, 'Busnes Anorffenedig' ar label Sain yn 2008. Dychwelodd ei gyfres, Geraint Lovgreen ar Enw'r Gân i Radio Cymru yn Awst 2011.
Dydy Geraint Lovgreen a'r Enw Da ddim wedi'u cymryd eu hunain o ddifrif erioed, ond eto maen nhw'n dal i chwarae a recordio bron i ddeng mlynedd ar hugain ers eu sefydlu.
Newyddion
Beirdd V Rapwyr
26 Gorffennaf 2006
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Sesiwn Unnos 2
Mae Lisa Jên am ymuno efo Geraint Lovgreen a'r Enw Da am noson yn stiwdios y ÃÛÑ¿´«Ã½ i geisio sgrifennu, recordio a rhyddau pedair o ganeuon mewn un noson!
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales Music

More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.