ÃÛÑ¿´«Ã½

Gruff Rhys

Gruff Rhys

Aelod o'r Super Furry Animals, ac artist unigol amryddawn.

Arferai Gruff Rhys chwarae yn yr un band â chanwr Celt, Martin Beattie, ym Methesda yn ei arddegau ond daeth i amlygrwydd yn nes ymlaen fel prif leisydd Ffa Coffi Pawb.

Ar ôl arwyddo i label Ankst, fe ddaeth Ffa Coffi yn un o brif fandiau Cymru gan ryddhau tair albwm - Clymhalio, Dalec Peilon a Hei Vidal. Pan chwalodd y grŵp yn 1993, aeth Gruff i astudio celf yn Barcelona am gyfnod cyn mynd ati gyda'r drymiwr Dafydd Ieuan o Roscefnhir i ffurfio'r Super Furry Animals. Aelodau'r grŵp bellach ydy Gruff y lleisydd, Dafydd ar y drymiau, Cian Ciaran, brawd Dafydd ar yr allweddellau, Huw 'Bunf' Bunford ar y gitâr a Guto Price ar y gitâr fâs.

Yn 1995, fe arwyddodd y band i label Creation Records. Yn ôl y stori, gofynnodd Alan McGee, pennaeth y cwmni, iddyn nhw ganu mwy o ganeuon yn Saesneg ar ôl bod yn eu gwylio'n perfformio - heb ddeall eu bod nhw wedi canu pob cân yn Saesneg. Fe wnaethon nhw'n siwr wrth arwyddo fod eu cytundeb yn cynnwys diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.

Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Fuzzy Logic, yn 1996 - yr albwm gyntaf i Gruff ganu yn Saesneg arni. Wedi llwyddiant Fuzzy Logic aeth SFA ymlaen i fod yn un o fandiau mwyaf cynhyrchiol, creadigol a hirymarhous y sîn. Gyda sawl EP ac albwm Saesneg y tu ôl iddyn nhw erbyn hyn, fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi albwm Gymraeg hynod lwyddiannus, Mwng, yn 2000.

Ar ddechrau eu gyrfa roedd y band yn enwog am sawl rheswm heblaw eu cerddoriaeth fel yr eirth 40 troedfedd a'r tanc glas a ddefnyddiwyd ar eu teithiau cynnar ac am rannu llwyfan gyda dau 'ieti' cynoesol.

Yn 2003 daeth Gruff nôl i dref ei fagwraeth gyda'r Super Furries i gymryd rhan yng ngŵyl Pesda Roc, atgyfodiad o wyliau llai yr 80au yn y dref i ddathlu canmlwyddiant diwedd Streic Fawr y Penrhyn.

Ym mis Ionawr 2005, recordiodd ei albwm unigol gyntaf, yr Atal Genhedlaeth, gan berfformio ar ei ben ei hun, ynghyd ag Alun Tan Lan a phrosiect Kerdd Dant ar daith o amgylch theatrau Cymru i'w hyrwyddo. Ers hynny, mae wedi rhyddhau dau albwm unigol arall sef Candylion a Hotel Shampoo, ac mae wedi cydweithio gyda nifer o fandiau ac artistiaid eraill, yn ogystal a pharhau i recordio a rhyddhau sawl albwm gyda'r Super Furry Animals. Mi wnaeth hefyd ffurfio'r band Neon Neon, ac mae wedi sefydlu label recordio o'r enw Irony Bored, sef y label wnaeth ryddhau albwm cyntaf Cate Le Bon.

Ym mis Hydref 2011, cyhoeddwyd mai Rhys oedd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg newydd am ei albwm boblogaidd, 'Hotel Shampoo'.

Newyddion

Albym newydd y SFA

29 Ionawr 2009

Y diweddara ym myd yr anifeiliaid hynod o flewog!

Mercury i Neon Neon?

22 Gorffennaf 2008

Mae rhestr fer y 'Mercury Music Prize' newydd eu cyhoeddi, ag ymysg y 12 band / artist ar y rhestr, mae Neon Neon.

Taith Gruff Rhys

8 Rhagfyr 2006

Erthyglau

Gruff Rhys ar C2

20 Mawrth 2008

Gwrandewch eto ar y sgwrs arbennig rhwng Daf Du a Gruff Rhys am ei brosiect diweddaraf, Neon Neon.


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.