ÃÛÑ¿´«Ã½

Richard James

Richard James

'...Artist sy'n gwybod pan mae orau i aros yn y cysgodion a phryd i gamu i'r llwyfan, sy'n dweud llawer am ei orffennol cerddorol a'i bresennol hudol." (Jude Rogers)

Dechreuodd Richard James ei yrfa'n ifanc iawn fel chwarewr bas y band poblogaidd, o Freshwater East, Sir Benfro, Gorky's Zygotic Mynci oedd yn gyfuniad o prog a psychedelia, gan ennill cefnogaeth John Peel, Mark Radcliffe ac eraill yn y 90gau. Yn 2006 daeth diwedd ar Gorky's a phenderfynodd Richard James barhau gyda'i yrfa fel cerddor ar ei liwt ei hun.

Cyhoeddodd ei albwm cyntaf , The Seven Sleepers Den (My Kung Fu) yn 2007. Roedd hwn yn waith hyderus- yn soniarus, melodaidd ac yn symud ei sain i gyfeiriad newydd.

Cyhoeddodd ei albwm nesaf yn 2010, We Went Riding oedd yn cyfuno'r tyner gyda'r iasoer-gyda'r gân 'Aveline' yn arbennig yn dangos y cyfuniad annisgwyl o melys a chwerw yn ei waith. Mae Richard James yn hoff o chwarae gyda genres cerdd-mae 'Hey Hey Hey' yn cyfuno 'Blues' a roc swnllyd tra bod 'Yes Her Smile's Like a Rose' yn ffocysu ar y banjo gwledig.

Braf clywed cyfraniad ei hen gydymaith a chyn brif ganwr 'Gorky's', Euros Childs yn yr albwm diweddaraf tra bod Cate Le Bon yn ymuno gyda James yn y gân, 'From Morning Sunshine'.

Newyddion

Albym a Taith Rich James

Chwefror 6 2007

Albym a Taith Rich James

Chwefror 6 2007

Albym a taith Rich James

Mawrth 22, 2006

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Parti "foam" Maes B, albym newydd Meic Stevens a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.