ÃÛÑ¿´«Ã½

Tecwyn Ifan

Ganwyd Tecwyn Ifan yng Nglanaman ym 1952 pan oedd ei dad yn weinidog yn Ystalyfera, Cwm Tawe. Symudodd y teulu i fyw yn Login, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf.

Bu'n aelod o'r grŵp Y Perlau Taf rhwng 1969 ac 1972 a recordiodd pum record fer i Welsh Teldisc a Cambrian. Mae'n ddiddorol nodi iddo chwarae'r gitâr drydanol ar ei recordiad olaf ond un i'r Perlau Taf, offeryn na chwaraeodd byth wedyn.

Astudiodd i fod yn weinidog yr efengyl yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, ac ym 1972 ffurfiodd Ac Eraill gyda Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards. Rhyddhawyd tair record fer i Sain cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd record hir Diwedd Y Gân, unwaith eto ar label Sain.

Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel Nia Ben Aur, Tua'r Gorllewin a Cwm Nant Gwrtheyrn yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o fudiad Adfer erbyn hyn, ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.

Fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio ar ben ei hun am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975. Sgrifennwyd caneuon newydd ar gyfer y sioeau cerdd Heledd ac Anwariad a gynhaliwyd ym 1975 ac 1976.

Campwaith Tecwyn Ifan yw Y Dref Wen (Sain, 1977) - yr albwm cyntaf a'r un gorau. Mae cysgod Waldo a thristwch diwedd bro yn gorwedd yn drwm dros y caneuon yma. Fe'i gynhyrchwyd - fel bron pob albwm arall - gan Hefin Elis.

Mae Dof Yn Ôl (Sain, 1978) yn cynnwys un ochr o ganeuon sydd yn ymwneud ag Amos y proffwyd. Blwyddyn yn ddiweddarach, roedd Goleuni Yn Yr Hwyr, gyda chlawr hyfryd gan Jac Jones, braidd yn siomedig. Ond mae 'na uchafbwyntiau fel y ddwy gân Cŵn Annwn a Rwy'n Dy Weld.

Erbyn Edrych I'r Gorwel (Sain, 1981) roedd e'n amlwg bod Tecwyn Ifan wedi colli ei ffordd yn gerddorol, ac roedd y caneuon yn dechrau swnio'n flinedig. Serch hynny, yr albwm dilynol, Herio'r Oriau Du (Sain, 1983), oedd ei record orau ers Y Dref Wen. Fe'i recordiwyd yn dilyn Rhyfel Y Malfinas, ac mae'n cynnwys sawl cân brotest fel John Bull, Hiroshima a Marina.

Roedd rhaid aros saith mlynedd cyn Stesion Strata (Sain, 1990) a oedd yn gasgliad amrywiol o ganeuon newydd a chaneuon wedi eu cyfiethu fel The Streets Of London gan Ralph McTell.

Recordiwyd Sarita saith mlynedd yn ddiweddarach, ond y tro yma, gyda Tudur Morgan wrth y lliw, a gyda band oedd yn cynnwys dau cyn aelod o'r grŵp Dom.

Ar ôl seibiant o wyth mlynedd ymddangosodd Wybren Las, ac unwaith eto gyda chynhyrchydd newydd, sef Dyl Mei. Newidiodd y band unwaith eto, a chwaraewyd y drymiau gan ei fab Gruffudd o'r Texas Radio Band.

Discograffi

  • Y Dref Wen (Sain) 1977
  • Dof Yn Ôl (Sain) 1978
  • Goleuni Yn Yr Hwyr (Sain) 1979
  • Edrych I'r Gorwel (Sain) 1981
  • Herio'r Oriau Du (Sain) 1983
  • Stesion Strata (Sain) 1990
  • Y Goreuon (Sain) 1995
  • Sarita (Sain) 1997
  • Wybren Las (Sain) 2005

Newyddion

Tregaron - Y Lle i Fod!

18 Ionawr 2006

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.