ÃÛÑ¿´«Ã½

Tystion

Tystion

Hip-hopwyr chwyldroadol

Plentyn siawns MC Sleifar (Steffan Cravos) a G-Man (Gruff Meredith) oedd Tystion, roddodd bom o dan y sîn hip-hop Gymraeg ifanc yn 1996 a'i chicio "mewn i siap".

Ar ôl rhyddhau nifer o gasetiau gyda'i gilydd, drafftiwyd y cynhyrchydd Curig Huws a'r rapiwr Chef (Gareth Williams) i'r grŵp i gynhyrchu albwm gynta Tystion, Rhaid I Rywbeth Ddigwydd yn 1997, ddaeth allan ar label Fitamin Un.

Dilynodd dwy albwm a thair EP ar label Ankst rhwng 1998 a 2000, ond erbyn hynny roedd Meredith wedi ffarwelio â Cravos er mwyn sefydlu personoliaeth newydd, sef MC Mabon.

Yn adnabyddus am themâu gwleidyddol a maniffesto "gallwn ni wneud unrhywbeth" yn rhedeg trwy eu caneuon, daeth Tystion â dos go helaeth o realaeth i'r sîn Gymraeg, oedd ar y pryd yn diodde o iselder ysbryd yn dilyn colli sawl grwp sefydlog i'r iaith fain.

Gyda'r EP Y Meistri (2001) yn actio fel rhybudd i'r plant newydd ar y bloc - Pep Le Pew, yn bennaf - roedd yn edrych fel petai dyfodol Tystion yn ddiogel, ond gyda chyhoeddi diwedd y grwp ar lwyfan Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 ac un EP ola (M.O.M.Y.F.G.) daeth cyfnod Tystion i ben.

Digon teg yw dweud bod Tystion wedi gosod y sylfaen i'r rhan fwya o hip-hop Cymraeg sydd yn bodoli heddiw.

A chofiwch, does dim 'Y' ar ddechrau enw'r grŵp. Gwnewch y camgymeriad hwnnw; watchiwch eich cefnau.

Ian Cottrell

Newyddion

Teyrngedau i John Peel

Hydref 14, 2005

Adolygiadau

Adolygiad CD Ankst

4 Chwefror 2008

Beth yw barn yr adolygwyr am "Radio Crymi Playlist Vol 2"?

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.