ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 30 Mehefin 2006
Cythrwfl ar ddiwedd gêm Yr Almaen

Cafwyd golygfeydd hyll ar ddiwedd buddugoliaeth Yr Almaen dros Ariannin gyda gwrthdaro rhwng chwaraewyr y ddwy wlad wedi'r tîm cartref ennill ar giciau o'r smotyn.


Ymddengys mai'r cyn ymosodwr, Oliver Bierhoff, sydd bellach yn rhan o dîm hyfforddi'r Almaen, oedd canolbwynt atgasedd yr Archentwyr.

A chafodd y dyfarnwr, Lubos Michel o Slofacia, a nifer o swyddogion Fifa eu dal yn y cythrwfl.

Dywedodd Bierhoff wrth sianel deledu yn Yr Almaen: "Mae cefnogwyr wedi profi eu bod yn gallu cyd-dynnu. Fe ddylem ninnau fel chwaraewyr allu wneud yr un peth."

Cafodd sawl dwrn a chic eu taflu mewn golygfeydd anghredadwy barhaodd am bron i ddau funud ar y maes yn Berlin.

Dechreuodd y digwyddiadau wrth i chwaraewr canol cae;r Almaen, Tim Borowski, wneud ystumiau tuag at yr Aerchentwyr i "fod yn ddistaw" wedi iddo rwydo y bedwaredd cic o'r smotyn i roi'r tî cartref 4-2 ar y blaen.

Dechreuodd nifer o'r Archentwyr gerdded tuag ato a phan arbedwyd cic olaf Ariannin, camodd amddiffynnwr Ariannin, Fabricio Coloccini, tuag at Oliver Neuville o'r Almaen.

Taflwyd sawl dwrn cyn i'r swyddogion a'u cyd chwaraewyr gamu i'r adwy.

"Mae'n bechod bod lluniau fel hyn wedi mynd o gwmpas y byd," ychwanegodd Bierhoff, oedd yn honni iddo geisio gwahanu'r chwaraewyr wedi eilydd o Ariannin sefyll ar amddiffynnwr Yr Almaen, Per Mertesacker.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý