Cynhaliwyd Cwpan y Byd 1934 yn Yr Eidal - Sweden oedd yr unig wlad arall i geisio am y fraint i gynnal y bencampwriaeth - ond roedd cysgod ffasgaeth yn amlwg wrth i'r unben, Benito Mussolini,Ìýgeisio defnyddio'r gystadleuaeth i ledaenu neges wleidyddol.
Lleoliad | ÌýYr Eidal | Timau | 16 | Pencampwyr | ÌýYr Eidal | Prif Sgoriwyr | Edmund ConenÌý Oldrïch Nejedlý  Angelo Schiavio   4Ìýgôl | Dyma oedd y bencampwriaeth cyntaf lle roedd rhaid i'r timau fynd trwy gemau rhagbrofol er mwyn cyrraedd y rowndiau terfynol yn Yr Eidal.
Ac am yr unig dro yn hanes Cwpan y Byd, bu rhaid i'r Eidal chwarae gêm rhagbrofol er mai nhw oedd yn cynnal y gystadleuaeth.
Yn ffodus i Fifa - a Mussolini - llwyddodd yr Eidalwyr i drechu Gwlad Groeg a sicrhau eu lle yn y bencampwriaeth.
Gwrthododd Wrwgwái â theithio i amddiffyn eu coron oherwydd y diffyg timau Ewropeaidd oedd yn Wrwgwái pedair blynedd yn gynharach.
Roedd hynny'n golygu mai'r Ariannin, Brasil, America a'rÌýAifftÌýoedd yr unig dimau o du allan i Ewrop yn y gysatdleuaeth.
A cholli oedd hanes y pedwar yn y rownd agoriadol gan adael wyth tîm Ewropeaidd i frwydro yn rownd yr wyth olaf.
Yr Eidal oedd yn fuddugol yn y rownd derfynolÌýwrth iddynt drechu Tsiecoslofacia 2-1 wedi amser ychwanegol.
 |