Roedd yn hynod eironig,Ìýmai yng Ngorllewin yr Almaen cynhaliwyd yr unig bencampwriaeth weloddÌýDwyrain yr Almaen yn cyrraedd y rowndiau terfynol.
Lleoliad | Gorll. Almaen | Timau | 16 | Pencampwyr | ÌýGorll. Almaen | Prif Sgoriwyr | Grzegorz Lato  7Ìýgôl |
AcÌýwedi'r enwau ddod allan o'r het ar gyfer y rowndiau terfynol, roedd y ddwy wlad Almaeneg yn yr un grŵp.
Wrth i'r ddwy wlad gwrdd am yr unig dro yn eu hanes, cafwydÌý un o ganlyniadau mwyaf annisgwyl y bencampwriaeth wrth iÌýJürgen Sparwasser rwydo unig gôl y gêm.
Er y golled llwyddodd Gorllewin yr Almaen i gamu ymlaen i'r rownd derfynol lle roeddent i wynebuÌýun o dimau gorau'r byd -ÌýYr Iseldiroedd.
O dan oruchwyliaeth eu rheolwr, Rinus Michels,Ìýroedd yr Oranje a'u chwaraewyr dawnusÌýyn chwaraeÌýsystem Total Football.
Ac er i Johan Neeskens rwydo gôl i'r Iseldiroedd o fewn 90 eiliad i'r chwiban gyntaf, rhwydodd Paul Breitner a Gerd Müller i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref.
 |