Llwyddodd Yr Ariannin i ennill Cwpan y Byd ar eu tomen eu hunain, 48 mlynedd wedi iddynt gystadlu am y tro cyntaf, ond roedd y bencampwriaeth yn un dadleuol ar y maes ac oddi ar y maes. Lleoliad | ÌýYr Ariannin | Timau | 16 | Pencampwyr | ÌýYr Ariannin | Prif Sgoriwyr | Mario KempesÌý 6Ìýgôl |
Dwy flynedd cyn y bencampwriaeth cafwyd chwyldro yn y wlad welodd y fyddin yn dwyn grym.
Roedd nifer o wledydd yn cwestiynu os dylent gymryd rhan yn y bencampwriaeth, ond yn y diwedd dim ond seren yr Iseldiroedd, Johan Cruyff, wrthododd â theithio i'r Ariannin.
Ar y maes, cafwyd honiadau fod rhai gemau wedi eu trefnu a rhai timau wedi eu llwgrwobrwyo ac ni ddathlwyd rhyw lawer ar lwyddiant y tîm cartref tu allan i'r Ariannin.
Gadawodd Yr Alban am Yr Ariannin gyda miloedd o'r Tartan Army yn heidio i faes awyr Prestwick er mwyn ffarwelio â nhw wedi'r rheolwr, Ally McLeod, ddatgan fod ei dîm yn mynd i ennill y Gwpan.
Ond roedd y bencampwriaeth yn embaras llwyr i'r Albanwyr er iddynt drechu'r Iseldiroedd yn y gêm olaf o'r grŵp, wedi iddynt golli yn erbyn Peru a chael gêm gyfartal ag Iran.
Wedi'r grŵp agoriadol, aeth yr Iseldiroedd ymlaen i gyrraedd y rownd derfynol gan orffen ar frig Grŵp Ac wedi trechu Awstria 5-1 a'r Eidal 2-1, a chan sicrhau gêm gyfartal 2-2 â'r deiliaid, Gorllewin yr Almaen.
Yr Ariannin a Brasil oedd yn brwydro i orffen ar frig yr Grŵp B ac roedd angen buddugoliaeth o bedwar gôl ar y tîm cartref yn erbyn Peru yn eu gêm olaf er mwyn sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.
Nid oedd yn broblem wrth i'r Archentwyr chwalu Peru 6-0, gyda Mario Kempes yn sgorio dwy.
Aeth Kempes ymlaen i rwydo dwy gôl arall yn y rownd derfynol wrth i'r Ariannin drechu'r Iseldiroedd 3-1 wedi amser ychwanegol.
 |