Roedd Cwpan Y Byd 1986 i fod i gael ei lwyfannu gan Colombia, ond ym 1983, wedi llywodraeth y wlad ddatgan nad oeddent yn gallu fforddio cynnal y bencampwriaeth, fe'i symudwyd i Mecsico. Lleoliad | Mecsico | Timau | 24 | Pencampwyr | Yr Ariannin | Prif Sgoriwr | Gary Lineker  6 gôl |
Ond bu bron i'r dim i Mecsico orfod ildio'r fraint hefyd wedi daeargryn enfawr daro'r brifddinas, Mexico City, wyth mis yn unig cyn i'r bencampwriaeth gychwyn. Ond, gan nad oedd yr un stadiwm wedi eu difrodi gan y daeargryn, penderfynwyd parhau â'r paratoadau.
Llwyddodd Canada ac Irac i gyrraedd y rowndiau terfynol am yr unig dro yn eu hanes, hyd yma.
Ac wedi'r bencampwriaeth gychwyn, dim ond un enw oedd ar wefusau pawb - Diego Armando Maradonna.
Profodd Maradona bod awch un dyn yn gallu gyrru tîm cymharol gyffredin yr holl ffordd i'r rownd derfynol a chipio prif wobr y byd pêl-droed. A daeth ei berfformiad mwyaf cofiadwy yn y gêm yn erbyn Lloegr yn rownd yr wyth olaf yn yr Estadio Azteca, Mexico City.
Wedi chwe munud o'r ail hanner a chyda'r gêm yn ddi-sgôr, manteisiodd Maradonna ar gamgymeriad gan amddiffynnwr Lloegr, Steve Hodge.
Trodd Hodge y bêl dros ei ben i ganol y cwrt cosbi a llwyddodd Maradonna (5tr 6 mod) i droi'r bêl dros ben y golwr, Peter Shilton (6tr 1 mod), trwy ddefnyddio ei law - yr enwog 'Hand of God'.
Ac i fawr syndod y Saeson, fe ganiatawyd y gôl gan y dyfarnwr o Tunisia, Ali Bin Nasser.
Ond tri munud yn ddiweddarach daeth ail gôl i Maradonna oedd yn profi ei allu wrth iddo garlamu a dawnsio o'i hanner ei hun, heibio pump o Saeson, cyn claddu'r bêl yng nghornel isaf y rhwyd.
Wedi trechu Gwlad Belg yn y rownd gynderfynol roedd Maradona a'r Archentwyr i wynebu Gorllewin yr Almaen yn y rownd derfynol.
Roedd yr Almaenwyr wedi curo'r tîm cartref a Ffrainc ar y ffordd i'r rownd derfynol ac yn benderfynol o wneud yn iawn am y siom o golli i'r Eidal ym 1982.
Ond llwyddodd Maradona i ysbrydoli ei dîm unwaith wrth i goliau gan Jose Luis Brown ac Jose Valdano roi'r Archentwyr 2-0 ar y blaen.
Ac er i Karl-Heinz Rummenigge a Rudi Völler ddod â Gorllewin yr Almaen yn gyfartal, rhwydodd Jorge Burruchaga chwe munud cyn y diwedd i sicrhau'r gwpan.
 |