 |
Newidiwyd diwethaf:
04
Mai
2006
|
 |
 |
 |
|
 |
 |
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Croatia ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp F: v Brasil 13 Mehefin 2000 BST, Berlin
v Siapan 18 Mehefin 1400 BST, Nuremburg
v Awstralia 22 Mehefin 2000 BST, Stuttgart
Dyma fydd y pumed tro i Croatia gyrraedd un o prif bencampwriaethau'r byd ers i'r gymdeithas bêl-droed gael ei ffurfio ym 1994 - camp enfawr i wlad sydd â phoblogaeth o lai na phum miliwn.
Wedi methu â chamu ymhellach na'r rownd gyntaf o Ewro 2004, cymrodd Zlatko Kranjcar yr awenau gan sefydlu ysbryd gwych yn y garfan.
Llwyddodd Croatia i orffen ar frig Grŵp 8 yng ngemau rhagbrofol Ewrop, heb golli'r un gêm.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Ym 1998, llwyddodd Croatia i synnu'r byd pêl-droed trwy orffen yn drydydd ar eu hymddangosiad cyntaf erioed yn y gystadleuaeth.
Er eu bod wedi cystadlu o dan faner Yugoslavia ar wyth achlysur, 1998 oedd y tro cyntaf erioed iddynt gystadlu fel gwlad annibynnol.
Ond cawsant siom yn Siapan a Chorea yn 2002 wedi iddynt fethu â chamu ymlaen o'r rownd agoriadol wedi colli yn erbyn Mecsico a'r Eidal.
Sêr y Tîm: Dado Prso yw prif ymosodwr Croatia a thra'n wych yn yr awyr ac yn arbennig am gadw'r bêl yn fyw i'w gyd chwaraewyr, mae amheuaeth am ei ffitrwydd oherwydd sawl anaf i'w ben-glin.
Rhwydodd Darijo Srna, sydd yn chwarae i glwb Shakhtar Donetsk yn yr Ukraine, bum gôl yn y gemau rhagbrofol, ac mae'r asgellwr yn allweddol i lwyddiant y tîm.
Mae ei allu â chiciau gosod yn fygythiad i unrhyw dîm ond mae'n weithgar tu hwnt gan amddiffyn â'r un awch ac mae'n ymosod.
Barn ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd: Y gêm ag Awstralia fydd y gêm bwysicaf yn y rownd agoriadol wrth i'r ddwy wlad frwydro am yr hawl i orffen yn ail i Frasil yng Ngrŵp F.
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
Ìý
Ìý
|
 |
 |
 |
Dyw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
 |
 |
 |
|