Sgoriodd Klose i roi ei dîm ar y blaen wedi tair munud, ac fe yw prif sgoriwr y gystadleuaeth yn dilyn ei ail cyn yr egwyl.
Podolski sgoriodd trydedd gôl Yr Almaen, sy'n golygu eu bod yn gorffen ar frig Grŵp A.
Bydd tîm Jurgen Klinsmann yn wynebu'r tîm fydd yn gorffen yn ail yng Ngrŵp B yn y 16 olaf yn Munich brynhawn Sadwrn.
PRIF DDIGWYDDIADAU
57 mun: Gôl - Ecuador 0-3 Yr Almaen
Lukas Podolski yn sgorio gyda foli yn dilyn gwaith da gan Bernd Schneider a Bastian Schweinsteiger.
Hanner amser - Ecuador 0-2 Yr Almaen
43 mun: Gôl - Ecuador 0-2 Yr Almaen
Mae Miroslav Klose yn sgorio ei ail o'r prynhawn, wedi gwaith da gan Michael Ballack.
3 mun: Gôl - Ecuador 0-1 Yr Almaen
Miroslav Klose yn sgorio ei drydydd gôl o'r gystadleuaeth i roi'r Almaen ar y blaen, mewn gêm mae'n rhaid iddynt ennill os am orffen ar frig Grŵp A.
TIMAU
Ecuador: Mora, De la Cruz, Espinoza, Ambrossi, Guagua, Valencia (Lara), Edwin Tenorio, (Urrutia), Mendez, Borja (Benitez), Kaviedes.
Eilyddion: Castillo, Delgado, Hurtado, Lanza, Perlaza, Reasco, Saritama, Carlos Tenorio, Villafuerte.
Yr Almaen: Lehmann, Friedrich, Mertesacker, Huth, Lahm, Schweinsteiger, Frings (Borowski), Ballack, Schneider (Asamoah), Klose (Neuville), Podolski.
Eilyddion: Hanke, Hildebrand, Hitzlsperger, Jansen, Kahn, Kehl, Metzelder, Nowotny, Odonkor.
Dyfarnwr: Valentin Ivanov (Rwsia)