ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 10 Mehefin 2006
Lloegr 1-0 Paraguay

Llwyddodd Lloegr i ennill eu gêm agoriadol yn erbyn Paragwai â gôl gynnar trwy ei rwyd ei hun gan Carlos Gamarra

> adroddiad y gêm

PRIF DDIGWYDDIADAU

Sgôr Terfynol Lloegr 1-0 Paragwai

88 mun: Cafwyd arbediad campus arall gan Aldo Bobadilla wrth i Frank Lampard geisio ag ergyd o bell.

80 mun: Gyda Peter Crouch wedi ei ynysu yn y llinell flaen, mae Sven-Goran Eriksson yn penderfynu dod ag Owen Hargreaves i'r maes yn lle Joe Cole tra bo Paragwai yn gyrru Jorge Nunez i'r maes yn lle Delio Toledo.

72 mun: Roedd angen arbediad campus gan Aldo Bobadilla i rwystro Frank Lampard rhag ddyblu mantais Lloegr â tharan o ergyd o 25 llath.

66 mun: Mae Nelson Valdez yn mwynhau ei hun i lawr yr asgell dde wrth i Loegr edrych yn flinedig iawn ar brydiau.

63 mun: Gorfodwyd Paul Robinson i arbed ergyd gan Nelson Valdez wedi ymosodwr Werder Bremen droi'n gelfydd yng nghwrt cosbi Lloegr.

62 mun: Bu bron i'r dim i Peter Crouch, gafodd gerdyn melyn am fod yn bowld â'r dyfarnwr, gasglu pas Gary Neville yn y cwrt bach, ond llwyddod Paragwai i glirio.

59 mun: Methodd Paul Robinson â chasglu croesiad o'r dde ond ni fanteisiodd Carlos Paredes gan yrru ei ergyd ymhell dros y trawst.

58 mun: Llwyddodd Joe Cole i ennill y bêl â thacl wych ar ochr cwrt cosbi Paragwai ond arbedodd Aldo Bobadilla yn gyfforddus

57 mun: Mae Lloegr yn chwarae gêm beryg wrth eistedd yn ôl a chaniatau Paragwai i ymosod.

55 mun: Sven-Goran Eriksson yn dod â chwaraewr canol cae Middlesbrough, Stuart Downing, i'r maes yn lle Michael Owen, gan yrru Joe Cole ymlaen i chwarae tu ôl i Peter Crouch.

50 mun: Llwyddodd David Beckham i greu dryswch yn amddiffyn Paragwai â chroesiad hyfryd o'r dde ond methodd Michael Owen a rheoli'r bêl gan ganiatau Julio Cesar Caceres i glirio.

48 mun: Ildiodd Gary Neville cic gornel wrth i Nelson Valdez geisio derbyn pas lletraws yng nghwrt cosbi Lloegr.

46 mun: Mae'n amlwg fod Paragwai wedi cael pryd o dafod gan ey rheolwr, Anibal Ruiz, yn ystod yr egwyl ac maent wedi dod allan ar dan ar gyfer yr ail hanner.

Hanner Amser: Lloegr 1-0 Paragwai

45+2 mun: Daeth cyfle gorau Paragwai wrth i Steven Gerrard daclo Roque Santa Cruz yng nghwrt cosbi Lloegr ac ymatebodd Nelson Valdez ag ergyd fodfeddi heibio'r postyn

42 mun: Yn dilyn gwaith da i lawr yr asgell chwith gan Joe Cole cafwyd ergyd fodfeddi heibio'r postyn gan David Beckham.

38 mun: Cafodd David Beckham gic rhydd o'r union fan lle grewyd y gôl gyntaf, ond yn ffodus i Paragwai, roedd Nelon Valdez yn ôl i amddiffyn.

37 mun: Llwyddodd Peter Crouch i gyfuno â'i amddiffyn i glirio cic rhydd Paragwai, ond cafodd John Terry slap yn ei geg am ei drafferthion

33 mun: Er fod y tymheredd oddeutu 33 gradd selsiws ar y maes, mae'r dyfarnwr yn mynnu atal y chwaraewyr rhag derbyn diod o ddŵr gan y timau hyfforddi.

29 mun: Roedd croesiad Michael Owen drwch blewyn yn rhy uchel i Peter Crouch, ond llwyddodd ymosodwr Lerpwl i ddangos ei ddoniau ac ennill cic gornel

21 mun: Llwyddodd Paragwai i orfodi Paul Robinson i arbed am y tro cyntaf yn y gêm wrth i Nelson Haedo Valdez ergydio o bell, a chafodd Steven Gerrard gerdyn melyn am ei dacl ar ymosodwr Werder Bremen.

13 mun: Mae Lloegr yn llwyr reoli'r chwarae a'r meddiant wrth i Paragwai geisio ymdopi ag ildio gôl gynnar a cholli eu prif golwr.

11 mun: Y dyfarnwr yn cosbi'r eilydd o golwr am ddal ar y bêl yn rhy hir ac yn rhoi cic rhydd anuniongyrchol i Loegr yng nghwrt cosbi Paragwai.

Tarodd Frank Lampard y bêl yn syth i'r mur amddiffynol a tharodd ei ail ergyd ymhell dros y trawst.

5 mun: Mae golwr Paragwai, Justo Villar, wedi anafu ei hun wedi carlamu o'i gwrt cosbi i glirio'r bêl o lwybr Michael Owen ac mae'r eilydd, Aldo Bobadilla, yn dod i'r maes i ennill ei chweched cap.

3 mun: Gôl - Lloegr 1-0 Paragwai
Cic rydd David Beckham yn cael ei droi i'w rwyd ei hun gan Carlos Gamarra

NEWYDDION

Fe ddylai Steven Gerrard ddechrau'r gêm wedi iddo wella o anaf i'w gefn ac mae ymosodwr Paragwai, Roque Santa Cruz, wedi datgan ei fod yn holliach.
TIMAU

Lloegr: Robinson, G Neville, Terry, Ferdinand, A Cole, Beckham, Gerrard, Lampard, J Cole, Owen, Crouch.

Eilyddion: Bridge, Campbell, Carragher, Carrick, Carson, Downing, Hargreaves, James, Jenas, Lennon, Rooney, Walcott.

Paragwai: Villar, Caniza, Gamarra, Caceres, Toledo, Bonet, Acuna, Paredes, Riveros, Valdez, Santa Cruz.

Eilyddion: Barreto, Bobadilla, Cabanas, Cuevas, Da Silva, Dos Santos, Gavilan, Gomez, Lopez, Manzur, Montiel, Nunez.

Dyfarnwr: Marco Rodriguez (Mecsico)

TRIFIA

Mae Lloegr wedi ennill pob gêm lle mae Peter Crouch wedi chwarae ac ers i Wayne Rooney wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2003, mae Lloegr wedi chwarae hebddo ar 10 achlysur gan ennill naw o'r gemau yma a sicrhau un gêm gyfartal.

Mae chwaraewr o Paragwai wedi derbyn cerdyn coch yn ystod eu dwy gêm diwethaf yng Nghwpan y Byd.

Yn ystod eu gêm olaf yn 2002, cafodd Carlos Parades ei hel o'rmaes wedi 22 munud ac yn yr ail rownd yn erbyn Yr Almaen, cafodd Roberto Acuna fath cynnar.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý