Ghana aeth ar y blaen gyda gôl gan Haminu Dramani wedi 22 munud, gyda Clint Dempsey yn dod â'r Americanwyr yn gyfartal.
Ond yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf, dyfarnodd Markus Merk gic o'r smotyn dadleuol yn erbyn amddiffynnwr yr Unol Daleithiau, Oguchi Onyewu.
Sgoriodd Stephen Appiah o'r smotyn i adfer mantais Ghana, gôl brofodd yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth a lle yn yr 16 olaf.
Daeth Brian McBride yn agos i'r Unol Daleithiau yn yr ail hanner, ond fe beniodd yn erbyn y postyn.
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sgôr terfynol - Ghana 2-1 UDA
Hanner amser - Ghana 2-1 UDA
45 + 2 mun: Gôl - Ghana 2-1 UDA
Stephen Appiah yn sgorio o'r smotyn i adfer mantais Ghana.
43 mun: Gôl - Ghana 1-1 UDA
Clint Dempsey yn unioni'r sgôr.
22 mun: Gôl - Ghana 1-0 UDA
Haminu Dramani yn sgorio i roi Ghana ar y blaen.
TIMAU
Ghana: Kingston, Mensah, Pantsil, Shilla, Mohamed, Appiah, Essien, Dramani, Boateng, Amoah, Pimpong.
Eilyddion: Eric Addo, Otto Addo, Adjei, Ahmed, Kuffour, Owu, Pappoe, Quaye, Sarpei, Tachie-Mensah.
UDA: Keller, Onyewu, Conrad, Cherundolo, Bocanegra, Dempsey, Reyna, Lewis, Beasley, Donovan, McBride.
Eilyddion: Albright, Berhalter, Ching, Convey, Hahnemann, Howard, Johnson, O'Brien, Olsen, Wolff.
Dyfarnwr: Markus Merk (Yr Almaen).