> adroddiad y gêm
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sgôr Terfynol - Yr Eidal 2-0 Ghana
83 mun: Gôl - Yr Eidal 2-0 Ghana
Er iddo orfod cael ei gario o'r maes pum munud yn ôl, llwyddodd Vincenzo Iaquinta i fanteisio ar gamgymeriad gan Samuel Kuffour i rwydo ail gôl. Mae'n rhaid bod magic sponge arben nig gan yr Eidalwyr!
75 mun: Mae Samuel Kuffour yn ffodus na welodd gerddyn coch am dacl warthus ar Vincenzo Iaquinta, ond roedd yr ymosodwr yn camsefyll.
72 mun: Disynodd Asamoah Gyan i'r llawr yng nghwrt cosbi Yr Eidal o dan bwysau gan Daniele de Rossi ond nid oedd y dyfarnwr ag u nrhyw ddiddordeb.
67 mun: Methodd Simone Perrotta gyfle euraidd i ddyblu mantais yr Azzuri wrth ergydio'n rhy agos at golwr Ghana, Richard Kingston.
53 mun: Llwyddodd Gianluigi Buffon i bwnio ergyd Michael Essien allan wedi ergyd hyfryd gan ymosodwr Chelsea.
50 mun: Roedd angen arbediad da gan Richard Kingston wedi Alberto Gilardino ganfod ei hun mewn digonedd o le yng nghwrt cosbi Ghana
Hanner Amser - Yr Eidal 1-0 Ghana
40 mun: Gôl - Yr Eidal 1-0 Ghana
Llwyddodd cic gornel Francesco Totti i gyrraedd Andrea Pirlo ar ochr y cwrt cosbi i yrru chwip o ergyd trwy llu o goesau i gefn y rhwyd.
33 mun: Roedd angen arbediad campus gan Richard Kingston o gic rydd Francesco Totti ond o'r gic gornel ddilynodd, methodd y golwr yn llwyr ond peniodd yr Eidalwyr dros y tawst.
31 mun: Mae Ghana yn mwynhau'r rhan helaeth o'r meddiant ar hyn o bryd gan achosi nifer o broblemau i'r Azzuri.
30 mun: Profodd Michael Essien nad yw Ghana yn ofni'r Eidal wrth iddo ddawnsio i fewn i'r cwrt cosbi â tharo ergyd hyfryd fodfeddi heibio'r postyn.
28 mun: Asamoah Gyan yn taro ergyd fodfeddi heibio'r postyn wrth i'r Eidal golli meddiant yng nghanol cae.
26 mun: Dihangfa i Ghana wrth i ergyd Luca Toni daranu yn erbyn y trawst i lawr at y llinell gôl ac allan.
21 mun: Mae Ghana yn dechrau canfod eu traed gyda John Pantsil yn ddraenen yn ystlys yr Azzuri.
12 mun: Methodd Luca Toni gyfle euraidd wrth i Simone Perrotta chwipio'r bêl ar draws y cwrt bach, ond methodd ymosodwr Fiorentina â chysylltu â'r bêl.
Bydd Francesco Totti yn nhîm yr Azzuri er iddo gyfaddef nad yw'n gwbl ffit.
TIMAU
Yr Eidal: Buffon, Zaccardo, Nesta, Cannavaro, Grosso, Totti, Perrotta, Pirlo, De Rossi, Toni, Gilardino.
Eilyddion: Amelia, Barone, Barzagli, Camoranesi, Del Piero, Gattuso, Iaquinta, Inzaghi, Materazzi, Oddo, Peruzzi, Zambrotta.
Ghana: Kingston, Pantsil, Kuffour, Mensah, Pappoe, Muntari, Essien, Appiah, Eric Addo, Gyan, Amoah.
Eilyddion: Otto Addo, Adjei, Ahmed, Boateng, Dramani, Mohamed, Owu, Pimpong, Quaye, Sarpei, Shilla, Tachie-Mensah.
Dyfarnwr: Carlos Eugenio Simon (Brasil)