Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Cote d'Ivoire ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp C: v Yr Ariannin 10 Mehefin 2000 BST, Hamburg
v Yr Iseldiroedd 16 Mehefin 1700 BST, Stuttgart
v Serbia a Montenegro 21 Mehefin 2000 BST, Munich
Mae Cote d'Ivoire yn cael eu hystyried fel prif dîm Affrica ar hyn o bryd ac mae cryn obeithion i Les Elephants yn Yr Almaen.
Ond er iddynt ennill Pencampwriaeth Gwledydd Affrica ym 1992 bu rhaid iddynt ddisgwyl tan eleni i gwireddu eu potensial a sicrhau eu lle ar prif lwyfan pêl-droed y byd.
Llwyddodd Cote d'Ivoire i baratoi ar gyfer Yr Almaen gan gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Affrica ym mis Chwefror, ond colli oedd eu hanes wrth i'r Aifft ennill y bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Les Elephants yng Nghwpan y Byd
Sêr y Tîm: Mae un enw amlwg yng ngharfan Cote d'Ivoire, sef Didier Drogba. Rhwydodd ymosodwr Chelsea naw gôl yn y gemau rhagbrofol a sgoriodd dair gôl yn yr Aifft. Bydd amddiffynnwr Arsenal, Kolo Toure, yn ddyn prysur yn Yr Almaen gan fod yr amddiffyn yn fan gwan gan Cote d'Ivoire, ond bydd ei brofiad yn werthfawr iawn i Les Elephants.
Barn ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd: Mae'r gallu gan Cote d'Ivoire i fod y tîm cyntaf o Affrica i gyrraedd y rownd derfynol, ond y broblem fwyaf i dîm Henri Michel fydd camu allan o'r grŵp, a bydd yn fynydd o dasg i orffen uwchben Yr Ariannin neu'r Iseldiroedd.
 |