Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Tunisia ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp H: v Saudi Arabia 14 Mehefin 1700 BST, Munich
v Sbaen 19 Mehefin 2000 BST, Stuttgart
v Wcrain 23 Mehefin 1500 BST, Berlin
Dyma fydd y trydydd tro yn olynol i Tunisia ymddangos yng Nghwpan y byd, ac mae hynny'n profi eu cryfder ym mhêl-droed Affrica.
Ond nid gwyr o Tunisia sydd yn gyfrifol am eu llwyddiant diweddar. Mae eu hyfforddwr, y Ffrancwr, Roger Lemerre wrth y llyw ers 2002, wedi llwyddo i greu carfan disgybledig a phroffesiynol.
Y gŵr holl bwysig arall yn llwyddiant y wlad yw'r ymosodwr, Francileudo dos Santos o Frasil. Wedi treulio dwy flynedd yn chwarae i glwb Etoile Sahel yn Tunisia, cafodd ddinesyddiaeth Tunisia cyn Pencampwriaeth Gwledydd Affrica yn Tunisia yn 2004.
Hanes yng Nghwpan y Byd:
Tunisia oedd y tîm cyntaf o Affrica i ennill gêm yng Nghwpan y byd pan drechwyd Mecsico 3-1 ym 1978, ond nid ydynt wedi llwyddo i gamu heibio'r rownd agoriadol ar yr un o'u tair ymddangosiad hyd yma.
Sêr y tîm:
Dos Santos y gŵr o Frasil sy'n chwarae dros Toulouse yn Ffrainc yw eu prif sgoriwr, ond bydd Rahid Jaidi yn enw cyfarwydd i gefnogwyr Bolton Wanderers.
Llwyddodd yr amddiffynnwr i greu argraff ffafriol pan gyrhaeddodd Stadiwm Reebok, ac er i'w berfformiadau diweddar fod ychydig yn chwit chwat, mae Jaidi yn un o chwaraewyr mwyaf profiadol ei wlad.
Barn ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd:
Dyma fudd cyfle gorau Tunisia i gamu heibio'r grŵp agoriadol, ond byddent yn ei chael yn anodd iawn i fynd unrhywfaint ymhellach
 |