Chwaraeon±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Abertawe Caerdydd Casnewydd Wrecsam Uwchgynghrair Cymru ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol Rhyngwladol Rygbi Rhyngwladol Rhanbarthol Athletau Beicio Bocsio Criced Cyffredinol Golff Moduro Olympaidd Rasio Ceffylau Rygbi XIII Snwcer Tenis Canlyniadau
Casglodd Gruffudd Morgan a David Phelps fedal efydd yn y 50m reiffl wrth orwedd (Parau) gan sicrhau trydydd efydd Cymru o'r Gemau.
Gorffennodd y ddau Gymro gyda 1176 pwynt, gyda Mike Babb a Chris Hector o Loegr yn cipio'r aur a'r Albanwyr Sinclair Martin a Neil Stirton yn ail.
Roedd yna siom fodd bynnag i'r merched, gyda Johanne Brekke a Ceri Dallimore yn methu ailadrodd eu llwyddiant ym Manceinion, gan orffen yn bumed.
Bydd dynion a merched Cymru yn awr yn troi eu golygon at y gystadleuaeth unigol ddydd Mawrth.