"Dyna oedd y nod, mae'n golygu'r byd i mi," meddai ar ôl sicrhau'r fedal arian yn rownd derfynol y bar llorweddol.
"Roeddwn yn isel iawn wedi i mi anafu fy mhen-glin ym Manceinion bedair blynedd yn ôl a hwn yw'r uchafbwynt.
"Mae tîm Cymru yn awr mor broffesiynol ac rwy'n falch i fod yn rhan ohoni.
"Rwyf yn gorffen fy astudiaethau yng Nghaliffornia ym mis Mai ac yna byddwn yn edrych tua'r dyfodol."
 |