ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Crefyddau
Gŵyl Chanukah
  • Neal Belkin yn sgrifennu am Wyl 'Nadoligaidd' yn Israel - Gwyl Chanukah


  • Fel y Nadolig, gŵyl goleuadau yw Chanukah sy'n digwydd yn y gaeaf.

    Mae'n ddiddorol iawn i Iddewon a Christnogion fel ei gilydd fod yn dathlu, dros tua dwy fil o flynyddoedd, ŵyl gyda goleuadau yn nghanol y gaeaf.

    Gyda'r nosau yn hir, mae'n bosibl fod y bobl ers talwm ofn fod yr haul yn marw ac roedden nhw am ei gynorthwyo i gael ei eni eto.

    Mae crefyddau eraill gyda gwyliau goleuadau yn y gaeaf hefyd:
    Yr Hindwiaid yn dathlu Diwali ddiwedd mis Hydref gyda thân gwyllt;
    Y Rhufeiniaid - cyn y cyfnod Cristnogol - gyda gŵyl o'r enw Saturnalia, a oedd yn cynnwys goleuadau - canhwyllau.

    Wyth diwrnod
    Mae Chanukah yn ŵyl sy'n parhau am wyth diwrnod a chyneuir canhwyllau bob nos.

    Ar y noson gyntaf, un gannwyll, ar yr ail noson, dwy gannwyll ac yn y blaen nes bo wyth cannwyll ar y noson olaf.

    Mae canhwyllbren arbennig, Chanukiah, i ddal y canhwyllau.

    Dydy hwn ddim yr un peth â'r Menorah ond yn dal naw cannwyll yn hytrach na saith.

    Mae'r gannwyll ychwanegol yn cael ei galw shamash - y gair Hebraeg am 'gofalwr' - sy'n cael ei defnyddio i gynnau'r canhwyllau eraill.

    Cysylltiadau hanesyddol
    Pam mae'r Iddewon yn goleuo'r canhwyllau hyn?
    Pam am wyth diwrnod?
    A beth yw'r enw Chanukah?

    Fel y Nadolig, mae cysylltiad rhwng dathlu'r ŵyl heddiw a digwyddiadau hanesyddol a chrefyddol.

    Yn y flwyddyn 168 CC, roedd Israel wedi ei meddiannu gan y Syriaid a addolai y duwiau Groegaidd a'r Deml Iddewig yng Nghaersalem wedi ei throi yn allor ar gyfer y duwiau hynny.

    Dan eu harweinydd, Yehudah Macabi, gwrthryfelodd yr Iddewon yn erbyn y Syriaid ac yn y flwyddyn 165 CC, llwyddodd i ryddhau Caersalem a'r Deml.

    Roedd y Macabiau eisiau adfer y Deml i'w defnydd blaenorol a chynnau'r fflam arferai losgi'n wastadol yno.

    Dim digon o olew
    Ond doedd dim digon o olew sanctaidd - dim ond un botelaid, digon am un diwrnod gyda'r cyflenwad newydd o olew daith wyth diwrnod i ffwrdd.

    Serch hynny, fe gyneuo nhw y fflam a digwyddodd gwyrth - fe losgodd yr olew am yr wyth diwrnod nes i'r olew sanctaidd newydd gyrraedd.

    Felly, mae'r Iddewon yn dathlu eu buddugoliaeth a'r wyrth yma trwy oleuo canhwyllau am wyth noson.

    A chan i'r Deml gael ei hailgysegru adnabyddir yr Wyl wrth y gair Hebraeg am ailgysegru, Chanukah.

    Rhannu anrhegion
    Er bod gwasanaethau crefyddol yn y Synagog ar gyfer Chanukah, yn y cartrefi mae'r prif ddathliadau, eto fel y Nadolig.

    Rydym yn rhannu anrhegion ymysg y teulu - yn enwedig i'r plant - ac yn cynnau'r canhwyllau yn y nos yn ein cartrefi, pan fo'r teulu i gyd gyda'i gilydd.

    Darperir bwydydd arbennig, yn enwedig rai sy'n cael eu paratoi ag olew, fel toesenni a levivot neu latkes - crempogau sy'n cael eu gwneud o datws.

    Mae hyn er mwyn ein hatgoffa o'r wyrth pan losgodd yr ychydig bach o olew am wyth diwrnod.

    Amser llawen
    Cyfnod llawen yw Chanukah, yn enwedig i blant ac yn Israel heddiw dydyn nhw ddim yn mynd i'r ysgol yn ystod yr wyth diwrnod a hynny'n creu awyrgylch ddymunol o wyliau yn y gweithleoedd ac ar y strydoedd.

    Unwaith, pan ddychwelais i Israel o ymweliad tramor yn ystod Chanukah, roedd merched yn y maes awyr yn cynnig toesenni i bawb oedd yn cyrraedd y wlad.
    Croeso cynnes a melys, yn wir!


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý