
 |
 |
Pwy
oedd John Roberts?
Hanes
rhyfeddol y sant o'r Traws
25 Hydref 2001
|
Dydio ddim yn enw y byddai rhywun yn disgwyl ei weld
ar sant - felly, pwy oedd John Roberts?
Ganwyd John Roberts yn Rhiw Goch, Trawsfynydd ym 1577. Mae’n
debyg iddo gael ei fedyddio yn Eglwys St. Madryn, Trawsfynydd. Credir
iddo fyw wedyn naill ai yn y Gelli Goch neu Dyddyn Gwladys, Trawsfynydd.
Ef oedd mab hynaf Robert ac Anna Roberts. Roedd yn frawd i
Ellis, Cadwaladr, Gwen, Margaret ac Ellen.
Mae ei linach yn mynd yn ôl i Cunedda ac ymysg rhai o’i hynafiaid
uniongyrchol mae
Maelgwn Gwynedd,
Rhodri Fawr,
Hywel Dda,
Gruffydd ap Cynan
Owain Gwynedd.
Ymysg ei hynafiaid anuniongyrchol mae
Dewi Sant,
Uthr Pendragon,
y Brenin Arthur,
Owain Glyndwr,
Llewelyn Fawr
Llewelyn ein Llyw Olaf.
Mae’n debyg mai mab fferm oedd o. Ond rhaid cofio mai’r system
gyntaf-anedig oedd yn gweithredu yn y cyfnod. Rhiw Goch oedd fferm
y teulu ac fe aeth honno i ewythr John Roberts, nid i’w dad.
Yn Rhiw Goch y magwyd Robert Lloyd, aelod seneddol cyntaf Meirionydd
a chefnder John Roberts.
Ond mae’n amlwg fod teulu John Roberts yn eithaf cefnog gan
iddo gael y cyfle i fynd i’r coleg.
Credir iddo gael ei addysg gynnar gan hen fynach a ddifeddiannwyd
o Abaty Cymer, wedi i Harri’r VIII gau’r mynachlogydd.
Magwyd John Roberts yn Brotestant ac aeth i Goleg St. Ioan,
Rhydychen ar Chwefror 26, 1595, i gael ei addysg ond gadawodd a mynd
i Furnival’s Inn i astudio’r gyfraith.
Bu'n teithio'r Cyfandir a thra ym Mharis trodd yn Babydd yn
eglwys gadeiriol Nôtre Dame.
Aeth i Bordeaux ac wedyn i’r Coleg Saesneg yn Valladolid, Sbaen.
Wedi blwyddyn yma aeth i Abaty St. Benedict, Valladolid, ac wedyn
i wneud ei nofyddiaeth yn Abaty St.Martin yn Santiago de Compostella.
Wedi iddo gael ei ordeinio aeth i genhadu yn Lloegr. Ef oedd
y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr wedi i Harri’r VIII ddiddymu’r
mynachlogydd.
Er bod ysbïwyr y llywodraeth yn ei ddilyn llwyddodd i lanio
yn Lloegr.
Daliodd yr awdurdodau ef bedair neu bum gwaith - unwaith ym
mis Tachwedd 1605 yn ystod Brad y Powdr Gwn.
Ar bob achlysur wedi cyfnod byr o garchar dedfrydwyd ef i alltudiaeth.
Yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn ymledu trwy Gymru a
Lloegr bu John Roberts yn gweini ar gleifion yn Lundain.
Yn 1610 dychwelodd i Loegr am y tro olaf er ei fod yn gwybod
mai dienyddiad fydda’r gosb pe caffai ei ddal. Un diwrnod tra'r oedd
yn ei urddwisg ac yn gorffen yr Offeren aethpwyd ag ef i Newgate.
Cafwyd ef yn euog o uchel frad ac fe’i dienyddiwyd ar Ragfyr
10, 1610, trwy ei grogi, ei ddadberfeddu a’i chwarteru. Ymgasglodd
tyrfa enfawr yn dyst i'r digwyddiad gan iddo ddod mor boblogaidd ymysg
y tlodion yn ystod cyfnod y pla.
Er mai'r arfer oedd i ddadberfeddu person tra'r oedd yn dal
yn fyw ni chaniatawyd hynny gan y dorf yn achos John Roberts gan fod
ei garedigrwydd yn dal yn fyw yn eu cof.
Traddodiad arall oedd bod y dadberfeddwr wedi’r weithred yn
dal y galon i fyny gan ddatgan "Wele galon bradwr!". Byddai’r dorf
wedyn yn ateb "Hir oes i’r Brenin". Ond y tro hwn roedd y dorf yn
fud.
Roedd John Roberts yn 33 oed pan gafodd ei ddienyddio gydag
un offeiriad arall a 16 o ffelwmiaid.
Ond nid yw’r stori’n diweddu â’i farwolaeth.
Wedi’r dienyddiad aeth y mynachod â’r corff i Douai yn Ffrainc.
Ond roedd un goes wedi disgyn i ddwylo’r gelyn. Aethpwyd â rhannau
o'i gorff i Goleg St Gregory, coleg yr oedd ef yn un o’i brif sefydlwyr
ym 1606-7. Roedd y coleg yn hyfforddi offeiriaid i’r genhadaeth Saesneg.
Aethpwyd â rhannau eraill o’i gorff i Valladolid a Santiago
de Compostella ond diflannodd y rhain yn ystod y Chwyldro Ffrengig
a’r Chwyldro Sbaenaidd.
Mae bys iddo yn Eglwys Gatholig Blaenau Ffestiniog ac un arall
mewn lleiandy yn Tyburn a thrydydd yn Taunton.
Darganfuwyd un o’i freichiau’n ddiweddar ym meddiant teulu
brenhinol Sbaen. Erbyn hyn mae hwn yn Santiago de Compostella.
Gellir gweld dau lun gwahanol o John Roberts yn Eglwys
Gatholig Gellilydan ac mae llun ohono newydd ei osod yn Valladolid.
Yn ddiweddar gosodwyd cerflun ohono mewn eglwys ym Mhortiwgal.
Mae dau gerflun yn Abaty Downside ger Caerfaddon, prif ganolfan
Benedictaidd Prydain. Yma hefyd ceir llawer o wybodaeth ysgrifenedig
amdano ac mae un o dai’r ysgol wedi ei enwi ar ei ôl.
Cynhelir gwasanaeth i’w goffáu ar ddiwrnod ei ferthyrdod, Rhagfyr
10, bob yn ail flwyddyn yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac Abaty Cymmer.
Ddiwedd y 1950au a dechrau’r 60au daeth nifer o Wyddelod ar
bererindod i Drawsfynydd gan ymgasglu yn neuadd y pentref i’w drafod.
Ar Orffennaf 21, 1960, dathlwyd ei fywyd yn Rhiw Goch a daeth
dros fil o Gatholigion o bob rhan o ogledd Cymru yno.
Enwyd Eglwys Gatholig ar ei ôl yng Nghorwen ond erbyn hyn mae
wedi ei chau a'i gwerthu.
Ar hyn o bryd mae archifydd yn Santiago de Compostella yn paratoi
bywgraffiad Sbaeneg ohono.
|
 |

  |
 |
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru |
 |
 |
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|