Cefndir Cymreig ffilmiau enwog
Ffilmio golygfeydd yng Nghymru ar gyfer ffilmiau enwog
Ar raglen Nia Roberts ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru bu cyfranwyr yn trafod broydd yng Nghymru lle cafodd golygfeydd ar gyfer sawl ffilm adnabyddus eu ffilmio.
Yr oedd y ffilmiau yn amrywio o'r ffilm James Bond, From Russia With Love gyda rhai golygfeydd wedi eu ffilmio yn Eryri i Moby Dick ym Mae Ceibwr ger Abergwaun.
Tomos Morse oedd yn rhestru'r lleoliadau ac ymhlith y ffilmiau a gafodd sylw yr oedd:
The World is not Enough ffilm James Bond lle defnyddiwyd pibell ddŵr yng Nghwm Dyli i gynrychioli pibell nwy yn Siberia.
Die another Day - ffilm James Bond arall gyda'r olygfa olaf o Halle Berry a Pierce Brosnan ar draeth yn Jamaica wedi ei ffilmio ar Draeth Penbryn, Aberteifi .
Yn ôl, Tomos Morse bu'n rhaid saethu'r olygfa ddwywaith gan fod tractor amethwr lleol, Emyr Brown, i'w weld yn gweithio ar lechwedd yn y cefndir.
Lawrence of Arabia - twyni Merthyr Mawr, Penybont-ar-Ogwr.
Moby Dick - Bae Ceibwr ger Abergwaun lle bu Gregory Peck yn gyrru o gwmpas mewn limosîn rhwng ffilmio. Ymhlith yr ecstras yr oedd Jenny Ogwen.
An Englishman Who Went up a Hill - Gyrn Moelfre, Llanrhaeadr-ym-mochnant.
Tiger Bay - gyda John Mills yn . . . Tiger Bay, Caerdydd!
Human Traffic - Caerdydd.
Only Two Can Play - gyda Peter Sellers a Mai Zetterling yn Abertawe.
Holiday on the Buses - yng ngwersyll Pontins, Prestatyn.
Inn of the Sixth Happiness - ardal Beddgelert a Chapel Curig gydag Ingrid Bergman.
House of America - Banwen, uwchben Castell-nedd.
Time Bandits - Castell Rhaglan.
Half Light- gyda Demi Moore yn Llanddwyn a Niwbwrch, Ynys Môn.
The Vikings - gyda Kirk Douglas a Tony Curtis yng Nghaernarfon a Phen y Gogarth ger Llandudno.
First Knight - gyda Sean Connery, Richard Gere a Julia Ormerod yn ardal Trawsfynydd.
The Silent Village - Abercraf.
The Constant Husband - gyda Rex Harrison a Kay Kendell yng Nghei Newydd.
The Last Days of Dolwyn - gyda Richard Burton ifanc yn ardal Rhydymain.
Llawer o sefyllian
Bu Angharad ab Iorwerth yn siarad am ei rhan fel 'ecstra' ar y ffilm First Knight yn ardal Trawsfynydd gan gofio dyddiau hirion o sefyllian a disgwyl galwad i fod yn "Townswoman".
Am y prif actorion dywedodd na ddangosodd yr un ohonynt fawr o awydd "i gymysgu efo ni y werin datws".
Bu John Meirion Jones o Langrannog yn hel atgofion am ddwy fodryb iddo a gymerodd ran ymylol mewn ffilm ddi sain, Torn Sails.